Arthur Wyn Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Llun:Henaduriaeth Arfon

Brodor o fro Llandwrog oedd Arthur Wyn Parry a fu farw fis Rhagfyr 2017. Yn adeiladwr ac yn ddarlithydd adeiladu yng Ngholeg Menai, bu'n arweinydd ar Gôr Meibion Dyffryn Nantlle am flynyddoedd wedi i C.H. Leonard roi heibio'r gwaith. Llwyddodd Arthur Wyn Parry i gyrraedd y llwyfan ac ennill sawl tro dros y blynyddoedd yng nghystadleuaeth Canu Emyn dros 60 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei fab yw'r milfeddyg, y canwr ac enillydd y Rhuban Glas, Iwan Wyn Parry.

Bu'n weithgar gydol ei oes yn ei gapel, sef Capel Bwlan (MC), Llandwrog, yn flaenor am bron i hanner can mlynedd ac yn ysgrifennydd ac arolygwr yr Ysgol Sul yno. Yn 2015, derbyniodd Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Yn y rhaglen ar gyfer y seremoni gyflwyno yng Nghapel Mawr, Dinbych, dywedwyd fel a ganlyn:

"Bu'n aelod yn Bwlan ers 65 mlynedd ac mae wedi mynychu'r ysgol Sul ers pan oedd yn 5 mlwydd oed. Cafodd ei ordeinio'n flaenor yn 1974. Gweithiodd yn ddiflino gyda'r plant, yn eu dysgu i ganu gan ddefnyddio'r tonic sol-ffa. Mae'r oedfa Nadolig yn Bwlan i'w rhyfeddu ati, a llwydda i ddenu pobl y pentra gan annog rhai sydd ddim yn aelodau i gymryd rhan. Y mae'n denor nodedig a bu ei ddawn fel canwr yn gaffaeliad iddo yng ngwaith yr eglwys. Bu'n ysgrifennydd yr ysgol Sul, a deil o hyd i fod yn Arolygwr."[1]

Rhywbeth llai hysbys amdano yw'r ffaith y treuliai lawer o'i amser ar ôl ymddeol yn goruchwylio adeiladau'r capel, gan arddel ei fedr fel adeiladydd.[2]

Yr oedd yn hynod o falch hefyd o'i gysylltiad teuluol gyda'r dramodydd John Gwilym Jones.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Henaduriaeth Arfon, [1], cyrchwyd 21.3.2021
  2. Gwybodaeth bersonol