Angharad Tomos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Angharad Tomos.JPG

Mae Angharad Tomos (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant ac darlunydd llyfrau. Mae hi'n hanu o waelodion plwyf Llanwnda er iddi fyw ym mhentref Pen-y-groes bellach, lle mae hi'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf gyfrifol am achub Siop Griffiths yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf".

Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.[1]

Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.

Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.

Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994

Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.[2]

Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes.

Ymgyrchu[golygu]

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel[3] ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[4].

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai (Gwasg Gwynedd, 2011)
  • Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
  • Cnonyn Aflonydd (Gwasg Gwynedd, 2001)
  • Hen Fyd Hurt (Y Lolfa, 1992)
  • Hiraeth am Yfory (Gwasg Gomer, 2002)
  • Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan (Y Lolfa, 2005)
  • Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2011)
  • 'Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Un Bach Ydwyf (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Ar y Brig - Stori Saceus (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Paid Siglo'r Cwch (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Rhywun i'w Garu (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Y Wal Na Ddaeth i Lawr (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Yn Ffau'r Llewod (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
  • Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
  • Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Eira'r Gaeaf (Y Lolfa, 2010)
  • Gwanwyn Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2010)
  • Haf Braf (Y Lolfa, 2010)
  • Halibalŵ Yr Hydref (Y Lolfa, 2010)
  • Parti Cwmwl (Y Lolfa, 1998)
  • Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim (Y Lolfa, 2007)
  • Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
  • Stwnsh Rwdlan (Y Lolfa, 1997)
  • Titrwm (Y Lolfa, 1994)
  • Wele'n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
  • Wrth fy Nagrau i]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
  • Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa, 1985)

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu]

  • 1982 - Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd am Hen Fyd Hurt
  • 1986 - Gwobr Tir na n-Og am Y Llipryn Llwyd (Cyfres Rwdlan)
  • 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 am Si Hei Lwli
  • 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 am Wele'n Gwawrio
  • 1994 - Gwobr Tir na n-Og am Sothach a Sglyfath (Cyfres Cled)
  • 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones

Mae hi hefyd yn cyfrannu'n gyson i dudalennau Herald Cymraeg y Daily Post, bob yn ail ddydd Mercher. Mae hi hefyd yn cyfrannu nodiadau i'r plant ym mhapur deufisol y Wesleiaid, Y Gwyliedydd Newydd. Am chwarter canrif bu'n ysgrifennydd Capel Salem (W), Tŷ'nlôn nes i hwnnw gau.

Mae hi'n wyres i'r darlithydd, Sosialydd ac awdur David Thomas.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Mae rhan sylweddol o'r erthygl hon wedi ei chymryd o dudalen Angharad Tomos ar Wicipedia [1], cyrchwyd 7.6.2019
  2. Dyfyniad o'r we [url=http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=12136%7C dyddiad=24 Tachwedd 2009| cyhoeddwr=Cyngor Llyfrau Cymru| teitl=Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009]
  3. http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/3734/desc/cofio-hedd-nid-cledd--pererindod-heddwch-gogledd-cymru/
  4. http://www.telegraph.co.uk/comment/letters/7963923/If-it-was-right-to-drop-the-bomb-on-Hiroshima-it-cant-be-immoral-to-have-Trident.html