Alwyn Hughes-Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Alwyn Hughes-Jones oedd Uchel Siryf olaf Sir Gaernarfon, ym 1973-4. Bu'r swydd mewn bodolaeth ers y Canol Oesoedd, er iddi troi'n rôl seremonïol ymhell cyn y 20g. Wedi 1974, penodwyd Uchel Siryf ar gyfer sir newydd Gwynedd.[1]

Roedd Alwyn Hughes-Jones yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth gyda'i bractis yng Nghaernarfon. Ei gartref am flynyddoedd lawer hyd ei farwolaeth oedd Bodarfryn, tŷ yn y Dolydd nid nepell o'i gapel, Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon, lle bu'n aelod amlwg ac yn flaenor. Dywedir iddo fod yn hael iawn at yr achos.

Roedd yn gynghorydd sirol a henadur yn yr hen Sir Gaernarfon, ac wedyn yn sir newydd Gwynedd.

Bu'n gefnogol iawn i'r "pethe" yn gyffredinol ac yn gweithredu fel trysorydd ambell i fudiad. Bu'n drysorydd Eisteddfod Cenedlaethol Caernarfon, 1959. [2]Fo oedd trysorydd y Pwyllgor Dathlu ar gyfer canmlwyddiant yr Wladfa ym 1865 ac yn un o'r criw a ymwelodd â'r Ariannin i ddathlu'r achlysur.[3]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Wikipedia, rhestr Uchel Siryfion Sir Gaernarfon, [1], cyrchwyd 17.6.2019
  2. Eco'r Wyddfa, Ebrill 2005, t.5
  3. Eiddwen Humphreys, Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-1989, (Bangor, 1989), tt.10-11