Alice Gray Jones (Ceridwen Peris)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Https---upload.wikimedia.org-wikipedia-commons-thumb-b-b0-Ceridwen Peris.jpg-220px-Ceridwen Peris.jpg

Ganwyd Alice Gray Jones (1852-1943) yn Llanllyfni yn ôl rhai ffynonellau, (er i Wicipedia[1] honni mai ym mhentref Trefor y cafodd ei geni), yn ferch i David ac Ellen Jones. Brawd Davidf JOnes oedd y Parch. John Jones, Bryn'rodyn a'i mam yn gyfnither i John Roberts (Iolo Caernarfon). Cafodd ei hyfforddi'n athrawes yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe, cyn dychweld i'w hen ysgol, Ysgol Dolbadarn, Llanberis, yn brifathrawes. Priododd y Parch, William Jones, Y Ffor, ym 1881.

Wedi iddi briodi a gorfod rhoi gorau i'w swydd oherwydd hynny (fel yr oedd yn ofynnol yr adeg honno), trôdd at lenydda. Bu'n olygydd Y Gymraes, 1896-1919, pan symudodd i fyw i Gricieth. Ysgrifenodd nifer o lyfrau i blant, gan gynnwys Caniadau Ceridwen Peris (1934). Ysgrifenodd hefyd nifer o werslyfrau ysgol Sul, traethodau dirwestol a phamffled ar foesau merched ifanc.

Bu'n un o sylfaenwyr Undeb Dirwest Gogledd Cymru, ac yn ymgyrchydd brwd dros hawliau merched.[2]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Wicipedia [1], cyrchwyd 18.08.2018
  2. Y Bywgraffiadur Cymraeg, 1941-1950, (Llundain, 1970), tt.25-6; Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986), t.304