Afon Llyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Afon Llyfnwy)
Jump to navigation Jump to search

Afon Llyfni yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae hi'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trwy Llyn Nantlle Uchaf, heibio pentrefi Tal-y-sarn a Llanllyfni (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, Rhedyw Sant, ac ymlaen hyd Pontlyfni gan arllwys i'r môr ym Mae Caernarfon yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn Nantlle Uchaf, yw Afon Drws-y-coed. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud ar Afon Llyfni a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw "Llyfnwy" mewn gwirionedd, er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol o enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,[1] ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai

Terfyniad yn -i sydd yma, nid yn -wy fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf Llyfnwy wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.[2]

Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.[3]

Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.

Yr oedd nifer o felinau ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel arfer (fel mae enw'r afon yn ei gyfleu - sef dŵr llyfn), roedd digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dŵr yn ôl i'r afon fawr.

Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Elwyn Davies (gol.), Rhestr o Enwau Lleoedd, (Caerdydd, 3ydd argraffiad, 1967), t.8
  2. Melville Richards, Enwau Tir a Gwlad, (Caernarfon, 1998), t.190
  3. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn