Afon Lech

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Afon fach, fer a disylw yw Afon Lech, sy'n codi ar lethrau Gurn Ddu ac yn llifo rhwng ffermydd Ystumllech a Thyddyn Hywel. Ei hunig hynodrwydd efallai yw'r ffaith mai dyma ffin plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn rhwng y mynydd a'r môr. Enw arall ar yr afon yw Afon Ystumllech.[1] Mae hi'n cyrraedd y traeth ar hyd ceunant bach.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ebenezer Thomas, ‘’Cyff Beuno’’, (Tremadog, 1863), t.32