Afon Gwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Un o'r prif afonydd sy'n rhedeg drwy ardal Uwchgwyrfai yw Afon Gwyrfai. Mae'n ffurfio ffin ogledd-ddwyreiniol i'r cwmwd.

Credir i'r afon darddu o Lyn y Gader ger Drws-y-Coed, ac mae'n rhedeg i lawr drwy ran enfawr o Eryri ac yn llifo i'r môr yn y Foryd ger Llanfaglan.[1]. Ar hen fapiau, gelwir yr afon uwchben Llyn Cwellyn yn Afon Cwellyn,[2] a cheir cyfeiriadau at yr afon yn uwch i fyny, lle mae'n llifo o dan Bont Rhyd-ddu, fel Afon Llyn-y-gadair.[3]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Erthygl am y lle hwn ar Wicipedia
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/76
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/153