Afon Garth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Afon fechan sy'n rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf yw Afon Garth. Dyma'r afon sy'n llifo dan Bont Baladeulyn yng nghanol pentref Nantlle. Mae un blaen-nant yn codi gerllaw Parc Colling ym mhen draw Y Fron, tra bod y brif nant yn codi yn Llyn Ffynhonnau i'r gogledd o fferm Castell Caeronwy ac yn llifo i lawr dyffryn bach bas heibio i ffermydd Caeronwy a Phen-y-garth.[1] Mae'r afon yn diflannu dan dipiau gwastraff Chwarel Pen-yr-orsedd ac mae rhai yn galw rhan uchaf yr afon yn Afon Caeronwy, a dim ond y darn pan ddaw i'r golwg o'r tipiau ger pentref Nantlle yn Afon Garth.[2] Ceir enghreifftiau hefyd o'r enw "Afon Caeron", er enghraifft yn enw'r bardd William Hughes (Glan Caeron).

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map Ordnans, Arolwg 1888
  2. Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [1]