Afon Hen

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Afon Ddalfa)
Jump to navigation Jump to search
Afon Hen ger ei tharddle
Afon Hen ger Pont-y-felin

Mae Afon Hen yn tarddu yng nghorsdir mynyddig Cors-y-ddalfa, tua 310 metr i fyny rhwng bryniau Bwlch Mawr (509 m) a Gurn Ddu (522 m) tua 2 filltir i'r de o bentref Clynnog Fawr.[1] Yn agos i darddle'r afon, ar lethrau Gurn Ddu, ceir dwy garnedd gynhanesyddol sy'n dyddio o Oes yr Efydd.

Mae hi'n llifo trwy Gwm Gwara ym mhlwyf Clynnog Fawr ac yn cyrraedd y môr yn Aberafon ger pentref Gurn Goch. Ar un adeg fe ddefnyddid dŵr yr afon i droi Melin Gurn Goch ger Pont-y-felin.

Enw arall, lleol, ar yr afon yw Afon Ddalfa, gan ei bod yn codi yng Nghors-y-ddalfa.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]