Aelhaearn Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Nawdd-sant a aned yn y 7fed Ganrif oedd Aelhaearn Sant. Roedd yn ddisgybl i Sant Beuno.

Yn ôl Syr J. E. Lloyd, mab Hygarfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan – ‘Moel Feliarth’ heddiw, ym mhlwyf Llangadfan oedd Sant Aelhaearn. Ef a sefydlodd Cegidfa, Llanaelhaearn, a chapel arall o’r 'run enw a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Roedd cred hefyd fod ei ffynnon Ffynnon Aelhaearn gyda rhinwedd gwella yn ei dyfroedd. Mae ei Ddydd Gŵyl ar Dachwedd 1af.

Chwedl Aelhaearn Sant[golygu]

Mae'r stori am y gŵr yma yn chael ei enw yn sicr yn dod o fyd chwedloniaeth. Byddai Beuno Sant yn aml iawn yn crwydro ar hyd y glannau o'i glas yng Nghlynnog Fawr i'r de-orllewini ac at fynyddoedd Yr Eifl. Llafarganai ei bader wrth gerdded. Roedd y mynachod eraill yn poeni amdano oherwydd bod y coedwigoedd y cerddai Beuno trwyddynt yn llawn bwystfilod rheibus. Dyma benderfynu ei ddilyn un noson, ac wedi cyrraedd godre'r Eifl gwelsant Beuno yn gweddio'n daer am i Dduw ei fendithio'i glas yng Nghlynnog. Yn sydyn, o'r goedwig, rhuthrodd bleiddiaid mawr a ffyrnig ac ymaflyd yn un o ffrindiau Beuno a'i rwygo yn ddarnau! Rhedodd Beuno ato i geisio ei achub a diflannodd y bleiddiaid. Bu Beuno a'i ffrindiau am amser maith yn casglu'r darnau ymhob cwr o'r goedwig- y breichiau fan hyn,y coesau fan draw, a'r pen yng ngwaelod gallt. Buont yno trwy'r nos yn trwsio'r mynach fel petaent yn gwneud jig-so. Roedd Beuno yn enwog am roi bywyd i'r meirw, ond er ei holl ymdrechion ni lwyddodd y tro hwn. Sylwodd nad oedd y corff yn gyfan a bod un o'r aeliau'r mynach ar goll. Chwiliwyd drachefn am yr asgwrn hwn ond ni chafwyd hyd iddo. Cafodd Beuno syniad. Gwelodd ffurel haearn ar waelod ffon un o'r mynachod. Fe'i tynnodd, a'i churo â charreg i'w chael y siâp iawn. Gosododd yr "ael o'r haearn" yn ofalus ar wyneb y corff a gweddio'n daerach fyth. Daeth y dyn yn ei ôl yn fyw, ac fe'i galwyd yn Aelhaearn. Cododd eglwys yno wrth droed yr Eifl. A phan fydd y gwynt yn chwythu o gyfeiriad Clynnog gallai Aelhaearn glywed tinc cloch eglwys Beuno a'i atgoffa sut y cafodd ei enw.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ellyll Hyll a Ballu, gan Mary Jones. Gwasg Utgorn Cymru 2008
  2. Straeon Arfon