Abermenai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai

Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Mae'n llifo rhwng penrhyn Trwyn Dinlle i'r de a Thrwyn Abermenai yn Ynys Môn. Dyma fan gulaf yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n fan croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Lŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai.

Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer, os nad miloedd o flynyddoedd.

Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Dyma safle Brwydr Abermenai 1098. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1] Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.[2] Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng nghyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.[3]

Gan fod y fferi'n eiddo i'r brenin, mae nifer sylweddol o gofnodion amdano wedi cronni dros y canrifoedd. Mae erthygl ar Fferi Abermenai yn rhoi rhai manylion pellach.

Mae'r llif trwy gulfor Abermenai'n gallu bod yn beryglus o gyflym a thwyllodrus er bod cyfnod rhwng llanw a llanw pan mae'n fwy diogel i hwylio ar draws yr aber. Bu llongau masnach a oedd yn hwylio i borthladd Caernarfon ac oddi yno yn mynd trwy'r culfor dros y canrifoedd, a pharhaodd yr arfer gyda llongau a gariai olew i ddepo ar gei Doc Fictoria tan ddiwedd y 1980au, ac fe gedwid y sianel yn glir gan y 'cwch mwd', y stemar Seiont II, nes i honno dorri. Dechreuodd tywod hel yn yr aber, a dywedir i'r llong olew olaf a geisiodd hwylio'r ffordd hon grafu gwaelod y môr. Wedi hynny am ychydig, daeth y llongau olew i Gaernarfon ar hyd y Fenai o gyfeiriad Biwmares, nes i'r depo gau.

Mae nifer o enwau wedi cael eu defnyddio gan forwyr a phobl leol wrth iddynt gyfeirio at y culfor yn Abermenai. Yr un mwyaf amlwg, ond eto o bosibl yn hen iawn, yw Y Gap. Enw arall arno oedd Ceg y Botel, ac mae tystiolaeth mai fel Adwy Bennog yr oedd pobl o ardal Clynnog Fawr yn adnabod y bwlch.[4]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, Abermenai [1], adalwyd 09.04.2018
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1939), t.469.
  3. H.R. Davies, The Conway and the Menai Ferries (Caerdydd, 1966),t.78
  4. Ifor Dylan Williams, Enwau arfordirol y Fenai yn Gareth Bevan ac eraill (golygyddion), Ar Drywydd Enwau Lleoedd (Tal-y-bont, 2021), t.178