Yr Hen Offis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:30, 22 Mawrth 2020 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Yr Hen Offis oedd swyddfa gyntaf y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw y Gorllwyn (a gyfenwid ar lafar yn West End) wrth droed Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o dri mynydd yr Eifl ger Trefor. Fel Tai Bach West End yr adnabyddir y tai yn lleol.

Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Trwyn y tâl|Drwyn y Tâl]] (Y Clogwyn) a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei.

Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan geffyl. Yn y Gorllwyn, adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones y Rheolwr, a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn yn y flwyddyn 1852, ac agorwyd y tramwe y flwyddyn honno. Yma hefyd y pwysid y cerrig cyn eu cartio i'r Cei ac i'r llongau. Daeth Trefor Jones i fyw i'w dŷ newydd ym 1852 ar ôl dwy flynedd yn lletya yng Ngwydir Bach, ac yno y bu'n byw hyd ei farwolaeth ym Mehefin 1860 yn 52 oed.

Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd, Chwarel yr Eifl, cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dai, ac addaswyd y stablau hefyd yn dai ar gyfer y chwarelwyr. Y tai hyn oedd y gris cyntaf fel petae i deuluoedd newydd, i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd. Ers blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd diflannodd yr hen dai bach a addaswyd o'r hen stablau, ond deil yr Hen Offis (dau dŷ deulawr), a hen dŷ unllawr Trefor Jones, yn anneddleoedd tlws.

Mae'r tri thŷ ers blynyddoedd lawer yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â'i bod hithau ei hun yn dod yno i aros yn ystod yr haf. Perthynas yw hi (ganwyd 3 Ionawr 1933) i deulu'r Darbishires, fu â llaw amlwg ym mherchnogaeth a rheolaeth Chwarel yr Eifl er 1910, a byddai'n treulio ei gwyliau ym Mhlas yr Eifl gyda'r teulu. Ei henw bryd hynny oedd Anya Eltenton a threuliodd ei phlentyndod yng Nghaliffornia, UDA.

Yn 14 oed (1947) daeth i Loegr i fyw a dod yn ddisgybl yn Ysgol Ballet Sadler's Wells yn Llundain. Roedd yn ddawnswraig ballet arbennig o dalentog. Ymunodd â'r Cwmni ym 1951. Yn un ar hugain oed fe'i dyrchafwyd yn 'Unawdydd', a phedair blynedd yn ddiweddarach yn Ballerina. Ymddeolodd ym 1965 yn dilyn priodi John Sainsbury ym 1963.

Y wraig hon (Anya Linden) yw'r Farwnes Sainsbury o Preston Candover, a chyda'i gŵr, hi oedd perchennog y gadwyn siopau enfawr Sainsbury's. Datblygodd Cwmni Sainsbury's daten hybrid newydd sbon ym 1996 a'i henwi'n Anya. Mae ganddynt dri o blant - Sarah, John a Mark. Mae ganddynt hefyd lawer o wahanol ymddiriedolaethau a chronfeydd elusennol, a'r fwyaf yw'r Linbury Trust - yr enw'n gyfuniad o Linden a Sainsbury.

Mae pobl Trefor yn gyfarwydd â'i gweld yr cyrraedd y cae sydd o flaen yr Hen Offis mewn hofrennydd !