Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynadon Heddwch Uwchgwyrfai"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 32: Llinell 32:
 
*William Glynn, Lleuar (1601)
 
*William Glynn, Lleuar (1601)
 
*William Glynn, Glynllifon (1602 hyd 1619)
 
*William Glynn, Glynllifon (1602 hyd 1619)
*Humphrey Meredydd, [[Monachdy Gwyn]] (1605 hyd 1628)
+
*Humphrey Meredydd, [[Mynachdy Gwyn]] (1605 hyd 1628)
 
*Thomas Glynn, Glynllifon (1621 hyd 1649) - ar farwolaeth ei dad, William Glynn
 
*Thomas Glynn, Glynllifon (1621 hyd 1649) - ar farwolaeth ei dad, William Glynn
 
*Thomas Glynn, Nantlle (1625)
 
*Thomas Glynn, Nantlle (1625)

Y diwygiad cyfredol, am 17:12, 12 Medi 2019

Penodwyd ynadon heddwch yng Nghymru am y tro cyntaf yn unol â'r Ddeddf Uno (1536), ac yn Sir Gaernarfon mae'n debyg i'r rhai cyntaf gael eu penodi erbyn 1541 os nad yn gynt.

Hanes Cyffredinol[golygu]

Roedd y swydd yn Lloegr wedi ei sefydlu dan Ddeddf Ynadon heddwch 1361. Ni ddylid gwneud y camgymeriad, fodd bynnag, nad oedd system hollol drefnus ac effeithiol o gadw trefn cyn hynny, dan y Tywysogion ac wedyn dan reolaeth y Saeson, 1282-1536. Mae'r swydd o ynad yn parhau hyd heddiw, ond cafwyd newidiadau mawr yng nghanol y 19g pan sefydlwyd y Llys Bach (neu Llys yr Heddlu neu Sesiwn Fach) ac wedyn ym 1973, pan sefydlwyd Llys y Goron yn lle'r Llys Chwarter, lle eisteddai ynadon y sir i gyd dan gadeiryddiaeth barnwr profiadol.

Yn ystod cyfnod y teulu Tudur ar orsaf Lloegr (1485-1603) rhoddwyd mwy a mwy o ddyletswyddau ar ysgwyddau'r ynadon fel nad oeddynt yn cadw trefn yn erbyn troseddwyr yn unig, ond yn fwyfwy'n dod yn reolwyr y siroedd, gyda llawer o ddyletswyddau sifil, megis trwyddedu tafarndai, ysgwyddo cyfrifoldebau am bontydd cyhoeddus, goruchwylio cynnal y tlodion, sicrhau pwysau a mesurau teg, trwyddedu porthmyn a hyd yn oed, yng nghyfnod Oliver Cromwell, gweinyddu priodasau a gorfodi deddfau cadw'r Saboth.

Ceir manylion llawn am hanes a dyletswyddau'r ynadon mewn llyfrau cyffredinol.[1]

Llysoedd yr Ynadon[golygu]

O 1541 ymlaen, hyd 1973, arferai ynadon y sir (neu'n hytrach y rhai ohonynt a oedd yn byw'n weddol leol ac yn cymryd eu dyletswyddau o ddifrif) gwrdd bedair gwaith y flwyddyn yn Llys y Sesiwn Chwarter, a gynhelid fel arfer yng Nghaernarfon (ond yn ystod y 16g, weithiau yng Nghonwy). Yno y trafodwyd materion sirol a deliwyd gyda throseddwyr a oedd wedi eu hanfon at y llys gan ynadon yn gweithredu'n unigol. Os oedd angen nifer o dystion lleol mewn ardal ymhell o Gaernarfon, neu os oedd y llys wedi methu â chwblhau ei fusnes ar y diwrnod, cynhelid sesiynau gohiriedig mewn mannau ar draws y sir. Mae hanes o lysoedd gohiriedig yn cael eu cynnal, er enghraifft, ym Metws Gwernrhiw yn Llandwrog yn y 17g.

Tan ganol y 19g, nid oedd sesiynau lleol lle cwrddai ynadon ardal fel arfer, a gweithredodd ynad yn ol ei ddoethineb, gan rwymo torwyr yr heddwch i ymddwyn yn heddychlon a thraddodi drwgweithredwyr gwaeth (megis terfysgwyr, lladron a'u tebyg) i sefyll eu prawf yn y llys chwarter. Gallai ynad gymryd datganiadau gan dystion neu achwynwyr, cyhoeddi gwarantau arestio a weithredid gan gwnstabaliaid lleol, ac wedyn cynnal croesholiadau y rhai a gyhuddwyd. Nid yw'n glir, fodd bynnag, i ba raddau y defnyddid y pŵer i garcharu neu ddirwyo drwgweithredwyr y tua llan i lys ffurfiol. Dylid cymryd hanesion y sgweier ac ynad lleol yn cosbi potswyr (er enghraifft) gyda phinsiad o halen mae'n debyg.

O ganol y 19g ymlaen, datblygodd system o feinciau lleol a oedd yn cynnal eu sesiynau lleol i ddelio gyda throseddau andditadwy (non-indictable), sef troseddau bychan - mân gwffio, mân ladrata ac yn y blaen. Roedd gan y trefi fel Caernarfon eu meinciau eu hunain, ond roedd y rhan fwyaf o Uwchgwyrfai yn syrthio y tu fewn i diriogaeth mainc Uwchgwyrfai - dim ond plwyf Llanaelhaearn a oedd yn ddiweddarach yn rhan o ardal mainc Llŷn. Parhaodd mainc Gwyrfai hyd 1984, pan unwyd hi gyda mainc Caernarfon. Erbyn hyn, gyda uniadau diweddar, un fainc sy'n delio gyda holl faterion Gwynedd a Môn.

Swyddog y llys yw Clerc yr Heddwch. Fel arfer, penodwyd rhywun oedd yn hyddysg yn y Gyfraith, ac yn fab i fonheddwr.

Penodi ynadon[golygu]

Mae'r cyfrifoldeb am benodi ynadon yng Nghymru yn nwylo'r Arglwydd Ganghellor ar gymeradwyaeth Arglwydd Raglaw y Sir, a dyna sut mae hi wedi bod ers 1536. Cyhoeddir "Comisiwn yr Heddwch" ar ddechrau teyrnasiad pob brenin Lloegr; mae hwn yn ddogfen sy'n rhestru'r rhai o fewn ffiniau'r sir sydd yn cael gweithredu fel ynadon heddwch. Ychwanegir at y Comisiwn pan y penodir ynadon ychwanegol newydd, ac weithiau cyhoeddid Comisiwn newydd diwygiedig yn ystod teyrnasiad brenin pe bai angen gwneud newidiadau mawr. Ers y 19g fodd bynnag, er bod pob ynad yn cael ei enwi ar y Comisiwn sirol, rhoddir fo neu hi ar fainc benodol o fewn y sir.

Ynadon â chysylltiad ag Uwchgwyrfai[golygu]

Yma fe restrir enwau ynadon sydd â'u cartrefi neu eu prif gysylltiad â'r sir o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Nid yw'r rhestr yn gyflawn, mae'n debyg ac weithiau nid yw'n sicr (a chofio mor gyffredin yw cyfenwau Cymru) pa unigolyn o'r un enw y cyfeiriwyd ato. Sylwer mai dynion yn unig a benodwyd hyd at y 20g, a rhaid oedd iddynt fod yn bobl wedi eu haddysgu a'r gallu i ddefnyddio Saesneg yn rugl, gyda safle amlwg yn y gymdeithas, o dras uchel a chyda digon o fodd. At ei gilydd, tirfeddianwyr, sgweieriaid sylweddol ac ambell i offeiriad o dras uchel a benodid. Erbyn hyn, fodd bynnag, ymdrechir at gael croestoriad o'r gymdeithas leol - ond nid felly y bu a phrin y gellid hawlio bod prawf mewn llys yn brawf o flaen rhai o'r un math a statws â'r cyhuddedig.

Teulu Glynllifon a'u perthnasau oedd yr unig rai yn Uwchgwyrfai i fyw yn y cwmwd a ddal tiroedd sylweddol yno, ac felly teulu'r Glynniaid oedd llawer iawn o ynadon y cwmwd trwy'r canrifoedd hyd at y 20g.

Mae rhestrau o ynadon Uwchgwyrfai ar gael, 1541-1689 mewn llyfr[2], ond nid yw mor hawdd, heb droi at Gomisiynau'r Heddwch, i ganfod rhai ar ôl y dyddiad hwnnw. Rhoddir dyddiad pan ymddangosir yr ynad am y tro cyntaf yn y cofnodion.,lle mae hynny'n hysbys.

  • William Glyn neu William ap Robert, Lleuar (1547)[3]
  • William Glyn, Glynllifon (1552 hyd 1595)[4]
  • Thomas Glyn, Glynllifon (1595) - ar farwolaeth ei dad, William Glyn
  • William Glynn, Lleuar (1601)
  • William Glynn, Glynllifon (1602 hyd 1619)
  • Humphrey Meredydd, Mynachdy Gwyn (1605 hyd 1628)
  • Thomas Glynn, Glynllifon (1621 hyd 1649) - ar farwolaeth ei dad, William Glynn
  • Thomas Glynn, Nantlle (1625)
  • Edmund Glynn, 6ed fab Glynllifon, Yr Hendre (1649-?1684)
  • John Glynn (Y Sarsiant), ail fab Glynllifon (1650-1666) - Arglwydd Brif Ustus Cromwell
  • George Twisleton, Lleuar (1650-1660)
  • Edmund Glynn, Bryn-y-gwdion - sef Bryn Gwydion (1656)
  • Thomas Bulkeley, Plas Dinas (1662-1686)
  • William Wynn, Pengwern (1662)
  • William Wynn, Llanwnda (1662)
  • Richard Glynn (1663)
  • John Glynn, ?Glynllifon (1670)
  • Thomas Glynn, Plas Newydd (1672)
  • William Glynn, Yr Hendre (1680-1716)
  • George Twistleton II, Lleuar (1686)


Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Syr Thomas Skyrme, Justices of the Peace (Chichester, 1991), ac yn arbennig Cyfrol III lle ceir hanes manwl ynadon Cymru; The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689 (Caerdydd, 1975), tt.IX-XXV; a F.T. Giles, The Magistrates Courts, (Pelican, 1949).
  2. J.R.S. Phillips, The Justices of the Peace in Wales and Monmouthshire, 1541-1689 (Caerdydd, 1975), tt.17-36
  3. W. Ogwen Williams, A Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956) t.247-8
  4. W. Ogwen Williams, A Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956) t.248