Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Groeslon"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw '''Y Groeslon'''. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf Llandwrog o'r mynd...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw '''Y Groeslon'''. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf [[Llandwrog]] o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn  
+
Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw '''Y Groeslon'''. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf [[Llandwrog]] o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog.  
croesi'r ff]].ordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel ([[Capel Brynrodyn (MC)]]) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y [[Dolydd]].
+
 
 +
==Hanes cynnar y pentref==
 +
Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel ([[Capel Brynrodyn (MC)]]) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y [[Dolydd]], yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn Gwalch. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog [[Rhosnenan]] (lle mae ystadau Cae Sarn, Y garreg a'r [[Ysgol Y Groeslon|ysgol]] erbyn heddiw, ac i'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon.
 +
 
 +
==Masnach a busnes==
 +
Pan agorodd [[Cwmni Rheilffordd Nantlle]] arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr [[Gorsaf reilffordd Y Groeslon|orsaf]] ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef ''railway sub office'' neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli', gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.<ref>http://gbstamp.co.uk/article/gb-railway-sub-offices-and-postmarks-421.html. Cyrchwyd 29.12.2017</ref>
 +
 
 +
Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn, sef Y Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadbod ar dafod lleferydd fel y [[Pen-nionyn]]; a'r Grugan Arms, o bobtu'r lôn a arweiniai dros crosin y rheilffordd. Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.
 +
 
 +
Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor diweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal i fynd. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y [[Dolydd]] tua'r un pryd).

Diwygiad 15:31, 29 Rhagfyr 2017

Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw Y Groeslon. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf Llandwrog o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog.

Hanes cynnar y pentref

Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel (Capel Brynrodyn (MC)) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y Dolydd, yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn Gwalch. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog Rhosnenan (lle mae ystadau Cae Sarn, Y garreg a'r ysgol erbyn heddiw, ac i'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon.

Masnach a busnes

Pan agorodd Cwmni Rheilffordd Nantlle arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr orsaf ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef railway sub office neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli', gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.[1]

Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn, sef Y Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadbod ar dafod lleferydd fel y Pen-nionyn; a'r Grugan Arms, o bobtu'r lôn a arweiniai dros crosin y rheilffordd. Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.

Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor diweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal i fynd. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y Dolydd tua'r un pryd).