William Hobley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:16, 16 Ebrill 2022 gan Irion (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Ganed y Parch. William Hobley (1858-1933) yn fferm Gelli-ffrydiau, Nantlle. Roedd yn ŵyr i Simon Hobley, un o bileri'r achos yng Nghapel Bryn'rodyn ar y pryd. Ar ochr ei nain, roedd yn ddisgynnydd i Angharad James, Gelli-ffrydiau. Yr oedd ei dad, William Hobley, yn berchennog llongau.[1]

Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, gan dderbyn addysg breifat yn ysgolion John Evans, a James Hews Bransby, cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth yn 15 oed. Ni raddiodd yno er iddo fod yn y coleg am 4 blynedd. Aeth wedyn i Goleg y Bala, ac fe'i hordeiniwyd ym 1882. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mwcle, Sir y Fflint, lle bu am 11 mlynedd. Roedd ei deulu'n gyfoethog ac nid oedd arno angen gweithio am gyflog ac felly ymneilltuodd wedyn yn 35 oed. Aeth at ei dad a'i dair chwaer a oedd yn byw ym Mwthyn Beuno, Waunfawr, gan ymroi i bregethu yn ôl y galw a darllen - ac fe'i disgrifiwyd yng Nghyfrifiadau 1901a 1911 fel "Gweinidog C.M.", serch nad oedd yn fugail ar yr un capel.[2]

Cyhoeddodd ysgrifau ar Daniel Owen a bywyd Sir y Fflint. Ei brif waith, fodd bynnag, oedd chwe chyfrol swmpus, Hanes Methodistiaeth Arfon, a gyhoeddwyd rhwng 1910 a 1924.

Bu'n farw'n ddi-briod 9 Ebrill 1933.[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1871
  2. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig (Waunfawr), 1901; Cyfrifiad plwyf Cei Connah, 1911 - ymweld yr oedd Hobley ar noson y Cyfrifiad, o bosibl yn sgîl galwad i bregethu.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.337