William Caldwell Roscoe

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

William Caldwell Roscoe (1823-1859) oedd un o dri chyfarwyddwr y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company), perchnogion Chwarel yr Eifl, Trefor. Y ddau arall oedd ei briod, Emily Sophia Roscoe, a gŵr i chwaer Emily, John Hutton.

Ganwyd William Roscoe yn Lerpwl ar 20 Medi 1823, yn drydydd o chwe phlentyn William Stanley Roscoe (1782-1843) a Hannah Elizabeth Roscoe (nee Caldwell) (1785-1854). Y plant eraill oedd Elizabeth Jane (1820-46), Anna Mary (1821-52), yr hon a briododd Richard Hutton, Arthur (1825-1903+), Thomas Stamford (1826-1910) a Francis James (1830-78). Ewyrth iddo (a brawd iau ei dad) oedd Thomas Roscoe, awdur llyfrau teithio sydd yn enwog yng Nghymru yn bennaf oherwydd ei lyfr Wanderings and Excursions in North Wales, (1836).[1]

Roedd William yn ŵr ifanc talentog a dysgedig iawn, yn fardd a thraethodydd galluog dros ben. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol breifat St.Domingo House, ger Lerpwl ac yna graddio ym Mhrifysgol Llundain ym 1843. Galwyd ef i'r Bar ym 1850, ond rhoddodd i fyny'r gyfraith ymhen dwy flynedd, yn rhannol oherwydd ei iechyd bregus. Wedi hynny bu'n byw yn bennaf yng Nghymru. Cyfrannai'n gyson i'r National Review, cylchgrawn dan olygyddiaeth ei frawd-yng-nghyfraith Richard Hutton (gŵr ei chwaer, Anna Mary). Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir dwy drasiedi, Eliduc (1846) a Violenzia (1851), llawer o farddoniaeth a nifer o draethodau a gyflwynwyd i'r cylchgronau Prospective a National. Fe'u casglwyd a'u cyhoeddi gan Richard Hutton ym 1860, ynghyd â choffâd. Ailgyhoeddwyd ei gerddi a'i ddramâu gan ei ferch Elizabeth Mary ym 1891.

Ym 1845 priododd â Sophia Emily Malin, merch William Malin, masnachwr llwyddiannus o Marley, swydd Derby. Roedd Sophia yn chwaer i wraig John Hutton. Cafodd William ac Emily ddwy ferch, Elizabeth Mary ym 1856, a Margaret ym 1858, ac un mab, William Malin ym 1847. Bu farw William Roscoe o'r teiffoid yng nghartre'r teulu yn 68 Park Road, Richmond, Surrey, de Lloegr, ar 30 Gorffennaf 1859 yn 35 mlwydd oed. Ceir cofeb iddo yng Nghapel Renshaw Street, Lerpwl. Trosglwyddwyd ei ddiddordeb a'i gyfrifoldeb yn y Cwmni Ithfaen Cymreig i'w weddw, Emily Sophia Roscoe. Priododd eu mab William ag Agnes Muriel, a chawsant ddau o blant - Elizabeth Mary Roscoe a William Roscoe.

Ei dad oedd William Stanley Roscoe (1782-1843). Cafodd ei addysg yn Peterhouse, Caergrawnt, a dod yn bartner ym manc ei dad, William Roscoe. Roedd yn dra chyfarwydd â llenyddiaeth Eidaleg. Ym 1844 cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Poems. Bu farw yn Lerpwl ar 31 Hydref 1843.

Mam William Caldwell Roscoe oedd Hannah Eliza Roscoe a anwyd ar 11 Medi 1785 yn Newcastle under Lyme. Bu farw ar 15 Chwefror 1854. Hi oedd yr hynaf o saith o blant James Caldwell, Linley Wood, Swydd Stafford ac Elizabeth Caldwell (nee Stamford). Y plant eraill oedd James Stamford Caldwell (1786-1858), Mary Caldwell (marw 10 Medi 1813 yn 24 mlwydd oed), Frances Caldwell (marw 14 Chwefror 1801 yn 5 oed), Anne Caldwell(1791-1874), Margaret Emma Caldwell (1792-1830) a Catherine Louisa Caldwell (1794-1814).

Ceir darlun (portrait) o Hannah Elizabeth Roscoe yn Oriel Walker, Lerpwl. Bu farw yn Richmond, Surrey ym 1845 yn 68 mlwydd oed. Fe'i claddwyd yng nghladdfa Renshaw Street, Lerpwl.

Mae'n werth cyfeirio at daid William Caldwell Roscoe, sef yr enwog William Roscoe a anwyd yn 1753 ac a fu farw ym 1831 yn 88 mlwydd oed. Banciwr oedd William Roscoe. Roedd hefyd yn ieithmon hyfedr iawn, gyda meistrolaeth lwyr ar Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg ac Eidaleg. Roedd hefyd yn fardd da, yn arlunydd medrus, yn hanesydd gloyw ac yn amddiffynnwr brwd o'r Chwyldro Ffrengig (1789). Roedd yn awdur toreithiog, ac ymysg ei weithiau enwocaf, a gyfrifir yn glasuron yr iaith Saesneg, ceir Life of Lorenzo de Medici a Life and Pontificate of Leo X. Un o'i lyfrau mwyaf dylanwadol oedd The Wrongs of Africa (1787) gwaith gŵr oedd yn wrthwynebwr brwd i'r fasnach gaethweision. Bu'n Aelod Seneddol Chwigaidd dros ddinas Lerpwl am gyfnod. Ef hefyd oedd prif sefydlydd Gerddi Botanegol Lerpwl (1782). Ym 1953 cyhoeddwyd cofiant iddo, The Life and Age of William Roscoe gan George Chandler.


Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wikipedia ar 'Thomas Roscoe" [1], cyrchwyd 26.4.2020