William Bifan y Gadlys

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:33, 10 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys.

Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, Llanwnda yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac fel y traddodiad yn y rhan yma o’r byd – dilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail-enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).

Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm Bodaden, Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd W. Gilbert Williams amdano, "Yn wyneb, yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono".

Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio a gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdan ei fraw,

"William Bifan Druan

Sydd wedi colli’i facsan

Yn chwilio amdano ers mwy nag awr

Yn nhalwrn mawr Bodadan."

Mae ambell i amheuaeth ynglŷn a’r defnydd o talwrn a parlwr ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.

Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,

"Mae llawer math o erfyn

I’w gael ar Werglodd Gudyn

Ond torrir heddyw, gwneir yn wir

Prydau ar dir Caerodyn."

O ddiolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau Uwchgwyrfai ers talwm.

Ffynhonnell

Williams, W. Gilbert Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru 1902 (Cyf. 23).