W.R. Ambrose

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yr oedd y Parch. William Robert Ambrose (1832-1878) yn weinidog y Bedyddwyr ym mhentref Tal-y-sarn. Fe'i ganwyd ym Mryncroes yn fab i'r Parch. Robert Ambrose. Roedd yn gefnder i'r bardd William Ambrose (Emrys).

Fe'i hyfforddwyd yn deiliwr - sef crefft y teulu (roedd Emrys hefyd yn ddilledydd). Bu'n gweithio yng Nghaernarfon, Lerpwl, Bangor a Phorthmadog, cyn symud fel teiliwr i Dal-y-sarn. Cafodd ei fedyddio a dechreuodd bregethu ym 1856 pan oedd yn byw ym Mangor. Tua diwedd ei oes derbyniodd alwad i fod yn weinidog cyflogedig ar Capel Salem (B), Tal-y-sarn, a sefydlwyd ym 1862. Roedd ganddo'r enw o fod yn bregethwr go drwm, ac mae ei waith ysgrifenedig, yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth, yn tueddu i gadarnhau hynny.[1]

Enillodd gystadleuaeth yn Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes, Llun y Pasg 1871, gyda'i draethawd hir Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle, pan ddefnyddiodd y ffugenw Maeldaf Hen. Fe'i cyhoeddwyd y flwyddyn ganlynol gan argraffydd lleol, Griffith Lewis. Mae'n un o'r llyfrau cyntaf i ymdrin â hanes Dyffryn Nantlle ac mae'n llawn o straeon a ffeithiau tra buddiol a diddorol.

Oherwydd ei werth parhaol, ailgyhoeddwyd y llyfr gan Gangen Dyffryn Nantlle o Fudiad Adfer ym 1985.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.7