Trwyn y Tâl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:09, 10 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Mae Trwyn y Tâl yn benrhyn o oddeutu 40 erw ar yr arfordir rhwng harbwr Trefor a'r darn gweddol wastad o dir sydd wrth sawdl Mynydd Garnfor (Mynydd Gwaith)' a elwir "Y Gorllwyn" (weithiau Hen Ffolt). Does neb o bobl y fro yn ei adnabod fel Trwyn y Tâl, ond yn hytrach fel Y Clogwyn, neu Pen Clogwyn, neu Clogwyn y Morfa.

Dechreuodd dyn busnes o'r enw John Heyden (a elwid yn "Sais Mawr" yn lleol), ac a oedd â'i swyddfa yn 60 Duke Street, Lerpwl, waith bychan yn y Gorllwyn ganol y 1840au yn trin cerrig sets ar gyfer palmantu strydoedd - gwaith a ddatblygodd, wedi sawl tro ar fyd, i fod yn Chwarel Yr Eifl enfawr a gyflogai gannoedd o ddynion yn ei hanterth. Roedd Heyden hefyd a'i lygaid ar fwyn haearn crai a oedd ar Drwyn y Tâl ac ym 1846 anfonodd lythyr at Arglwydd Newborough, Glynllifon, a oedd yn berchen ar y clogwyn fel rhan o fferm Y Morfa, yn gofyn am brydles a roddai hawl iddo gloddio am fwynau crai y clogwyn. Fodd bynnag, ni roddwyd y brydles ac ni ddaeth unrhyw beth o'r cynllun.[1] Ond, hanner canrif yn ddiweddarach, oddeutu troad y ganrif, sefydlwyd menter i gloddio am haearn crai (manganîs) ar Drwyn y Tâl. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd galw mawr am fwyn haearn, gyda'r cynnydd yn y galw am haearn a dur yn y diwydiant adeiladu, rheilffyrdd a llongau. Agorwyd nifer o hafnau dyfnion a siafftiau, ynghyd â rhai twnelau mewn gwahanol fannau ar y clogwyn ac mae'r rhain, ynghyd â thomennydd gwastraff, i'w gweld yn amlwg yno o hyd. Fodd bynnag, ni pharhaodd y fenter ond am ychydig flynyddoedd gan nad oedd y mwyn o safon ddigon da.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd adeiladodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddau gwt gwylio ar fan uchaf Trwyn y Tâl. Roedd yn fan strategol gyda golygfeydd agored dros y môr i gyfeiriad Caergybi ac ymhell allan dros Fôr Iwerddon. Yn un o'r adeiladau hyn, a oedd wedi'u codi'n solet gyda choncrid a brics, roedd llwyfan gwylio pren lle gellid gosod sbieinddrych fawr neu delesgop i archwilio'r môr. Yn yr adeilad arall roedd cegin fechan ac ystafell wely gyda dau wely bync i'r rhai a fyddai yno dros nos. Erbyn hyn mae'r ddau adeilad wedi dirywio'n sylweddol gyda'r toeau a'r holl goed wedi mynd a dim ond rhannau o'r muriau ar ôl.

Bu'r Clogwyn yn rhan o fferm y Morfa tan yn gymharol ddiweddar ac yn eiddo Ystad Glynllifon, ond bellach mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei brynu. Mae Llwybr Arfordir Cymru'n mynd yr holl ffordd drosto (o gyfeiriad Clynnog Fawr at Fwlch yr Eifl). Mae'r clogwyni serth sydd ar ei hyd dros gan troedfedd o uchder mewn mannau ac maent yn gartref i amrywiaeth eang o adar môr, megis yr wylan fawr a'r wylan benddu, bilidowcar, mulfran werdd, llurs a'r frân goesgoch. Ar hyd y clogwyn ceir hafnau megis Harbwr Wil a Bwlch Glas, ynghyd â'r staciau a elwir yn Ynys Fach (neu Ynys Gachu, oherwydd yr holl faw adar sydd arni) ac Ynys Fawr.

Cyfeiriadau

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor, (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2006), tt.9-11; gwybodaeth bersonol