Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tramffordd y Fron"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
 
Llinell 3: Llinell 3:
 
Cyn hyn, roedd [[Tramffordd John Robinson]] wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.
 
Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio [[Bwlch-y-llyn]] a thrwy cytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeiai o [[Chwarel Moel Tryfan]], [[Chwarel Cors-y-bryniau]] a [[Chwarel Alexandra]] yng nghyffiniau [[Rhosgadfan]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.</ref>
+
Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio [[Bwlch-y-llyn]] a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeiai o [[Chwarel Moel Tryfan]], [[Chwarel Cors-y-bryniau]] a [[Chwarel Alexandra]] yng nghyffiniau [[Rhosgadfan]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.</ref>
  
Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi.  
 
Y diwygiad cyfredol, am 18:04, 26 Tachwedd 2018

Roedd Tramffordd y Fron yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, arol gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o Chwarel Braich, Chwarel y Fron a chwareli eraill yng nghyffiniau'r Fron at ben yr inclein a redodd i lawr at Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn yr orsaf yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn Dinas. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei ddefnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.[1]

Cyn hyn, roedd Tramffordd John Robinson wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.

Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio Bwlch-y-llyn a thrwy gytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeiai o Chwarel Moel Tryfan, Chwarel Cors-y-bryniau a Chwarel Alexandra yng nghyffiniau Rhosgadfan.[2]

Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol, efallai mor hwyr â 1937. Mae map Ordnans a gyhoeddwyd ym 1919 yn dangos y traciau, ond erbyn y map nesaf a gyhoeddwyd ym 1953 (ac wedi cael ei ddiweddaru cyn 1949) roedd y traciau wedi eu codi.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), tt.262-3.
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.