Thomas Glynn (Botanegydd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Syr Thomas Glynn A.S. (m. 1648) yn aelod o deulu'r (Glyniaid, Glynllifon) [1] ac yn fotanegydd brwdfrydig[2]. Ceir cyfeiriadau ato mewn amryw o gyhoeddiadau am ddisgyblaeth botanegiaeth. Roedd yn fab i Syr William Glynn, Glynllifon, a bu yn Uchel Siryf dros Gaernarfon a Dinbych rhwng 1622 a 1623. Gellir dadlau ei fod wedi cyfrannu llawer iawn at yr astudiaeth o wahanol fathau o blanhigion, ac wedi gwneud enw iddo'i hun yn y maes.[3]

Roedd o â diddordeb yn ei erddi ei hun, a chroesawodd y botanegydd cynnar Thomas Johnson i'w gartref yn ystod mis Awst 1639, ar ol gohebu afo ers blynyddoedd. Thomas Glynn oedd y cyntaf i gofnodi'r planhigyn cottonweed (Otanthus maritimus).[4].

Roedd ei yrfa wleidyddol yn llai disglair, fodd bynnag, gan ochri pan oedd yn ddiogel i wneud hynny gyda phlaid y Senedd yn erbyn y Brenin. Er iddo fod yn aelod seneddol o 1624 ymlaen ac yn benteulu y Glyniaid, roedd yr Athro Glyn Roberts yn teimlo cyfiawnhad dros ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau amlwg" (a man of no outstanding qualities) er efallai iddo golli golwg ar ei arloesedd fel botanegydd.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Llundain, 1914)
  2. Cyfeiriad ato yn Journal of Botany, British and Foreign (1871)
  3. Alicia Amherst, A History of Gardening in England (1896)
  4. Dewi Jones, The Botanists and Guides of Snowdonia, (Carreg Gwalch, 1996), tt.16-17
  5. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, Trafodion Cym Hanes Sir G'fon, cyf.9 (1948), t.30