Tafarndai Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:59, 7 Mehefin 2023 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Anodd yw canfod hanes ‘’’tafarndai pentref Llanllyfni’’’ gan fod hen gofnodion am drwyddedu tai cwrw neu dafarndai lleol yn tueddu sôn am enw’r plwyf lle y’u lleolwyd yn unig. Yn aml, hefyd, byddai bragu cwrw’n digwydd ar aelwyd pobl megis gwragedd gweddwon a geisiai ennill ychydig o geiniogau trwy werthu eu cynnyrch i’w cymdogion - a hynny’n answyddogol heb drwydded. Dim ond tafarnau parhaol, megis mannau lletya a newid ceffylau, a fyddai’n cael enw swyddogol.

Erbyn y 19g., fodd bynnag, mae’r cofnodion yn fwy manwl. Yr oedd yna nifer o dafarnau yn Llanllyfni erbyn 1841 pan oedd y Cyfrifiad cyntaf yn cael ei gynnal, a mapiau’r Degwm yn cael eu llunio. Eu henwau oedd Tafarn y King's Head, y Quarry Arms, Tafarn y Ffort a Thafarn Barmouth ar y brif lôn (sef y Stryd Fawr neu Ffordd Rhedyw) sydd yn dringo’r allt heibio i’r eglwys. Am gyfnod hefyd roedd yna dafarn yng Nghoed Cae Du wrth y clawdd anferth a godwyd ar gyfer Rheilffordd Sir Gaernarfon, a hynny, meddid, er mwyn diwallu syched y labrwyr Gwyddelig a weithiodd i adeiladu’r lein yn y 1860au.

Erbyn diwedd y ganrif, fodd bynnag, gyda dylanwad y capeli a’r mudiad dirwest ar eu cryfaf, caewyd llawer iawn o dafarndai oherwydd diffyg galw neu bwysau dirwestwyr ar yr awdurdodau trwyddedu. Byddai tafarndai a gaewyd trwy dynnu trwydded oddi arnynt dan yr esgus nad oedd eu hangen yn derbyn iawndal. Erbyn 1911, dim ond y Quarry Arms - a elwid yn Quarryman’s Arms erbyn hynny, ond yn aros ar agor, ac felly y bu tan i honno gau yn 2012.

Ceir hanes y tafarnau unigol ym mhentref Llanllyfni mewn erthyglau byr am bob tafarn.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma