Tafarn y Prince Llewelyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:26, 14 Tachwedd 2023 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Safai Tafarn y Prince Llewelyn ar ochr y lôn sydd yn arwain at bentref Tal-y-sarn o ganol Pen-y-groes, nid nepell o'r hen dŷ tyrpeg. Fe'i hadeiladwyd ym 1867 gan J. Thomas y Parc ar dir a brydleswyd gan Ystad Bryncir. Erbyn 1869, roedd gan y Prince Llewelyn enw o fod yn lle a ganiatai i ddynion yfed gormod er eu lles eu hunain. Y flwyddyn honno, dirwywyd y tafarnwr, John Jones, am ganiatáu meddwdod yn y dafarn.[1]

Oes fer fu iddi, gan i'r ynadon ddiddymu ei thrwydded ym 1903. Erbyn hynny, roedd wedi mynd yn eiddo i'r bragwyr Greenall Whitley.[2] Nid syndod oedd i'r ynadon fynnu cau'r dafarn - roedd hynny yng nghanol cyfnod mwyaf llewyrchus y mudiad dirwest, ac ar ben hynny, roedd y tafarnwr, William Hughes, yn cael trafferth efo'r diod gadarn ei hun. Fe'i dirwywyd gan ynadon Pwllheli, er enghraifft, ym 1900 am fod yn chwil ac yn afreolus yn y dref honno.[3] Digwyddodd yr un peth fis Tachwedd yr un flwyddyn, a hynny yn yr un dref.[4] Ddyddiau cyn i'r Llys Trwyddedu gael ei gynnal, dirwyodd ynadon Caernarfon William Hughes am fod yn feddw yn un o dafarnau'r dref.[5] Prin oedd rhaid i'r ynadon feddwl ddwywaith am ei addasrwydd i gadw tŷ cwrw! Ac wedi cau'r dafarn, roedd William Hughes yn dal i wlychu ei big; ym 1908, fe'i cafwyd yn feddw ac yn afreolus yng Nghaernarfon.[6]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 7.6.1879, t.7
  2. Gwalia, 10.3.1903, t.8
  3. Y Genedl Gymreig, 4.9.1900, t.8
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 23.11.1900, t.8
  5. Yr Herald Cynmraeg, 3.3.1903, t.5
  6. Yr Herald Cymraeg, 1.12.1908, t.5