Simon Hobley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Graeanfryn, cartref Simon Hobley yn Llanwnda

Sais oedd Simon Hobley a anwyd ym Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd o'n fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.[1]

Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg crefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.

Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817 (a Sais pur yr achosodd ei benodiad gryn anfodlonrwydd), y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn Llanwnda, o bosibl fferm Plas Dinas a thra yno, mi aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwn, mi briododd efo Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion Angharad James, Gelli-ffrydiau, Nantlle[2]. Dichon i aelodau o deulu Hobley'n byw yn Gelli-ffrydiau am gyfnod ac yno ganed William Hobley ei ŵyr. Marc defaid Gelli-ffrydiau yw H, a dywedir mai oherwydd cyfenw'r teulu y mae hynny.[3]

Arferai Margaret redeg fusnes blawd ac yntau'n 36 oed, roddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Cristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol Graeanfryn yn Llanwnda, lle ymunodd ag achos Capel Bryn'rodyn (MC) a fe oedd i raddau helaeth y tu ôl i godi Ysgoldy Graeanfryn (MC), gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.

Bu farw 4 Awst 1879.

Er iddo ddod yn Sais pur i Gaernarfon (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), mi ddaeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol, gyfarwydd â'i feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. William Hobley.[4]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan 'My Heritage', [1] adalwyd 01.05.2018
  2. Bu farw 25 Chwefror 1870. Y Drysorfa, 1873, t.431
  3. Map Ordnans; Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [2]
  4. William Hobley, Hanes Methodistiaieth Arfon, Cyf.I, tt.165-7