Robert William Jones (Gosenian)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:28, 12 Chwefror 2020 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Hen lanc annwyl iawn oedd R.W. Jones, Nant Bach, Trefor, (m.1911), yn ffermwr, blaenor Methodist yng nghapel Gosen (MC), ac yn ysgrifennydd Seindorf Trefor ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n allweddol ac yn amlwg iawn yn y symudiad i gael offerynnau newydd i'r Band ym 1897.

Bu'n flaenor, ysgrifennydd ac athro ysgol Sul yng Ngosen, a dengys ei enw barddol Gosenian pa mor bwysig yn ei olwg oedd yr achos yno.

O ganlyniad i ddrylliad alaethus y Cyprian ar arfordir Llŷn ym 1881, a methiant Bad Achub Portin-lläen i fynd allan i'r môr ar y pryd, penderfynwyd cael ail gwch achub ar yr arfordir peryglus rhwng Enlli a Dinas Dinlle.

Ym 1883 cafwyd gorsaf bad achub yn harbwr Trefor i gartrefu'r cwch hwnnw ac fe'i galwyd yn Cyprian am resymau amlwg. Ddiwedd 1883 fe'i galwyd allan ar storm fawr i geisio achub criw y llong, Lady Hinks, a ddrylliwyd ar drwyn y Clogwyn yn Nhrefor. Pan yn rhwyfo rownd trwyn y Cei fe ddymchwelwyd y bad, ond fe achubwyd y criw, a hefyd, trwy ddulliau dewr eraill, holl griw y Lady Hinks. Dyma gerdd Gosenian i Fad Achub y Cyprian, Trefor.


Y Bywyd-fad


Pan y byddo'r mellt yn gwibio

Ac y rhua'r daran gref ;

Pan y byddo'r môr cynhyrfus

Yn ymgodi hyd y nef ;

Parod ydwyt ti'r Bywyd-fad

I wynebu'r tonnau cryf,

A thrwy ganol y rhyferthwy

Yr ywthi di yn hyf.


Pan y byddo'r morwr druan

Bron a suddo yn y lli,

Llama'i galon mewn llawenydd

Pan y gwelo ef tydi ;

Yr wyt ti, Fywyd-fad tirion

Megis angel glân a gwiw,

Gyda neges yn dy fynwes

I rai sydd â'u bron yn friw.


Caru gweini ar blant dynion

Yr wyt ti Fywyd-fad cu,

Gwneud negesau o drugaredd

Yw'th uchelgais bennaf di ;

Y mae hyn yn gwneud dy enw

Yn or-annwyl drwy bob gwlad,

Ac fe genir fyth dy glodydd

Gan ddynolryw mewn mwynhad.


Cael ei ladd mewn damwain wnaeth Gosenian yn haf 1911, pan syrthiodd o ben llwyth gwair yng nghae Llwynaethnen.