Robert Thomas, Y Ffridd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:51, 8 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Gwyddom ychydig am Robert Thomas trwy gofiant John Roberts, Llangwm, un o'i feibion: dyn digon distadl ei stad oedd o, mae'n debyg; arferai fyw ym Mlaen-y-garth a gweithio yng Ngwaith copr Drws-y-coed. Fe'i disgrifiwyd fel "gŵr ystwythgryf", ac yn arweinydd dynion plwyf Llanllyfni ym mhob gornest yn erbyn cryfion y plwyfi cyfagos, hyd nes iddo gael troedigaeth.[1]

Rywbryd ar ôl 1752 symudodd Robert Thomas a'i deulu o Flaen-y-garth, fferm fechan ychydig i'r gogledd o Bont Baladeulyn, plwyf Llandwrog, gan gymryd tenantiaeth o wythfed ran o Ffridd Baladeulyn, gan aros yno weddill ei oes a magu teulu yno, yn cynnwys y gweinidogion enwog John Roberts, Llangwm a Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf.

Tua 1768, sylweddolodd Robert Thomas y byddai buchedd fwy parchus yn gweddu'n well iddo, gan droi at grefydd. Roedd achos a dyfodd wedyn yn achos Capel Salem (MC), Llanllyfni wedi ei sefydlu ym 1766, ac ymunodd Robert Thomas a Chatrin Sion (neu Catherine Jones) yn fuan wedyn. Meddai William Hobley amdanynt: "Nid pobl gyffredin oedd [Robert a Chatrin], ac yr oedd rhywbeth nodedig yn rhai o leiaf o'r plant, ac yn eu hiliogaeth. A'u cymeryd fel teulu, y maent yn ddiau gyda'r hynotaf a fu yn sir Gaernarfon." Ac yr oedd gan y rhieni 13 o blant i gyd.[2] Mae stori troedigaeth Robert yn cael ei hadrodd gan William Hobley, ac er efallai y gwelir rhywfaint o ddychymyg yn y dweud, nid ellid gwneud yn well na dyfynnu ei ddisgrifiad yma:

Yr oedd troedigaeth Robert Thomas yn un hynod. Llun y Sulgwyn, yng Ngwylmabsant Clynnog, yr oedd ymladdfa wedi ei phennu rhwng plwyf Clynnog a phlwyf Llanllyfni. Dacw Robert Thomas yn cychwyn yn fore o’r Ffridd, “a chlamp o ffon dderwen yn ei law,’’ a’i briod a'i blant yn llefain yn ei wyneb rhag nas gwelent ef yn ddianaf fyth ond hynny. "Tewch â gwirioni, ffyliaid,” ebe yntau, “myn diawl, mi falaf un hanner dwsin ohonynt yn gocos, nes y diango’r hanner dwsin arall.” Yn y modd hynny Robert y pencampwr! Eithr yr oedd bwriad gwahanol ymherthynas âg ef gan ei gryfach. Erbyn cyrraedd ohono dŷ Edward y Teiliwr, gerllaw y Capel Uchaf, fe glywai ganu, ac aeth i mewn. Yn y man gweddiwyd. Teimlai’r cawr fel wedi ei hoelio wrth lawr y tŷ fel nad allai fyned allan. Dyma wr yn cymeryd ei destyn : “ Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll?” Argyhoeddwyd y pencampwr. James o Drefecca oedd y pregethwr. Aeth Robert Thomas ar ol yr oedfa ar ei union adref. Wrth weled ei wedd ddifrif, gofynnai’r wraig iddo, “ Robert bach, a ydych yn sâl ?” “O, nac ydwyf, Cadi bach, yr wyf heddyw yn dechre gwella am byth.” Yna fe eglurodd y digwyddiad i’w deulu. “Cadi,” eb efe wrth ei briod, "ni feddwaf ac nid ymladdaf byth mwy ond â’r cythraul a phechod.” Yr oedd y wraig, a’r mab John, mewn dagrau o lawenydd. “ Gobeithio mai felly y bydd, Robert bach,” ebe hithau. “ Na wnaf byth, Cadi, drwy gymorth gras Duw.” Ar ol swper aeth drwy’r ddyledswydd deuluaidd, â’r hyn ni pheidiodd mwyach. Nid anturiodd pobl Llanllyfni ymladd heb eu cawr y Llun Sulgwyn hwnnw. Ymunodd ef a’i wraig cyn hir â’r ddeadell fechan yn y Buarthau. Fel gyda Saul gynt, yr oedd ar y saint ei led arswyd ar y dechre. Pan holid ef yn o fanwl y noswaith gyntaf gan un John Pyrs, a ddigwyddai fod yno, fe dorrodd allan, “ Ai fy ameu yr ydych, John Pyrs?” nes fod hwnnw yn gwywo o’i flaen rhag ofn ei fod ar ymollwng i’w hen natur. “ O, nage, Robert bach, nid ydym yn ameu dim o’ch geirwiredd; ond y mae’n rhaid i chwi wrth fwy o ras i’ch gwneud yn ddyn nag i eraill i’w gwneud yn Gristnogion.” ...Agorodd Robert Thomas ei dŷ, sef Ffridd-baladeulyn, i bregethu, a bu pregethu yno am 52 mlynedd. Fe ddwedir y torrai yn orfoledd yn y Ffridd dan ambell i bregeth, ac y torrid llestri weithiau, ond na chwynid am hynny gan Catrin Sion, gwraig Robert Thomas.

Roedd yn rhan o'r mudiad i gynnal addysg ymysg y Methodistiaid, trwy sefydlu "ysgol deuluol" yn y Ffridd, lle byddai'n holi'r teulu am bennau'r ffydd, a hynny'n fuan ar ôl ei droedigaeth. Cynhaliai sesiynau nos Sul ac ar nosweithiau gwaith hefyd, a phan dyfodd ei fab hynaf, John, yn ddigon hen, cynorthwyai hwnnw ei dad. Ceisid sefydlu ysgol Sul yn Llanllyfni tua 1796, ac yn weddol fuan wedyn - ac yn sicr bron cyn 1800 - roedd y teulu'n cynnal ysgol Sul yn y Ffridd hefyd.[3]; tua'r flwyddyn 1796 hefyd dechreuwyd cynnal pregeth bob bore Sul yn y Ffridd, dan awydd a dylanwad Robert Thomas.[4] Mae'n bosibl, fodd bynnag, mai dylanwad Robert Thomas, a'r gynhysgaeth a adawodd ar ei ôl, a arweiniodd at sefydlu ysgol Sul yn y Ffridd, yn hytrach nag iddo fod yn uniongyrchol gyfrifol am ei sefydlu, gan iddo farw ychydig cyn 1800.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. G.T. Roberts, Arfon (1759-1822), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 1 (1939), tt.57-8
  2. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.116
  3. Gwynfryn Richards, The Early Story of the Schools of Dyffryn Nantlle, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 24 (1963), t.254
  4. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.115-6
  5. Archifdy Caernarfon, X/Vaynol/4057, argraffwyd yn R.O. Roberts, "Farming in Caernarvonshire around 1800, (Caernarfon, 1973), t.53