Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:35, 10 Mehefin 2019 gan Gwenhwyfar% (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Pontlyfni yn bentref ger y môr ym mhlwyf a chymuned Clynnog Fawr. Mae'n sefyll ar y brifordd A499. Bu siop gyffredinol yma hyd yn ddiweddar, ynghyd â chapel bach y Bedyddwyr. Mae yno fodurdy teuluol prysur sydd hefyd yn arddangos cerbydau amaethyddol a masnachol, a gerllaw ceir safleoedd i wersylla a charafanio. Mae Pont-y-Cim gerllaw. Yr oedd Melin-y-Cim yn y pentref. Mae'r ffaith fod y pentref yn cael ei enw o bont arall yn yr ardal, a hynny'n ddiweddarach, sef Pont Lyfni, nas codwyd cyn 1776 yn ôl pob tebyg, yn awgrymu mai yn y 19g a 20g y tyfodd y lle i fod yn bentref.

Roedd capel Bedyddwyr, Capel Seilo, ger bont y ffordd fawr. Yr ochr arall i'r ffordd, eto ar dalcen y bont, yr oedd tafarn y Boar's Head, a Swyddfa Bost. Roedd y Boar's Head yn agored ym 1914 ond wedi cau erbyn 1948 (yn ôl mapiau'r Ordnans).

Carreg fellt Pontlyfni[golygu]

Mae Pontlyfni yn enwog ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (Carreg fellt Pontlyfni) i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]