Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:31, 20 Ionawr 2018 gan Gwenhwyfar% (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio



Hanes

Hen Atgofion am Ben-y-groes gan Owen Owen, Cartrefle, Tanrallt.

I gael cip ar bentref Pen-y-groes pan oeddwn yn hogyn, awn am dro at:

Yr Hen Dyrpaig, Tolldy ar y brif ffordd (Tal-y-sarn), yn cael ei gadw gan hen wr a adwaenwn wrth yr enw Sion Dafydd y Tyrpaig. Gyferbyn a'r porth yr oedd dau gilbost mawr o lechfaen, a giat fawr led y ffordd, ac oddeutu iddynt droell i'r person unigol fynd trwodd. Telir toll ar bob march a cheffyl drol ai trwodd i godi arian i drwsio y ffordd.

Adeiladwyd yn 1867 dy tafarn gan J. Thomas y Park, a galwyd efo "Prince Llewelyn".

Y lle cyntaf wedyn yw Llwyn y Fuches, buarth fferm bwysig i Robert Huws, "Stack Head Inn" (heddiw Muriau Stores).Nid oes dim yn aros heddiw yn y lle yma ond ychydig o'r coed, ac fe fyddent yn hel y gwartheg oddi tanynt yn yr haf i'w godro. (Y mae yr hen garreg farch i'w gweld heddiw yn Llwyn y Fuches.GW)

Adeiladwyd Llwyn Onn gan Doctor John Williams yn 1869. (Gwelais fedd y Doctor ym mynwent Capel Helyg. GW). Yr oedd Llyn Hwyaid y fferm Llwyn y Fuches yn y fan lle y mae y fynedfa i Llwyn Onn (Nythfa) a thy Hugh Williams a'r gadlas, lle y saif y tri thy cyntaf rhyngoch a Capel Wesla.

Adeiladwyd y tai o Capel Wesla hyd at y Banc yn 1865-1867, y pump cyntaf gan Richard G. Pritchard, Garreg Wen a H.G. Pritchard, yna Robert Evans; Robert Williams a John Roberts. Roedd cae bychan oddi yno i brif-ffordd Llanllyfni i Gaernarfon, lle mae y Banc a'r Post Office heddiw. (Yr Hen Post Office oedd hwn. Y maent wedi adeiladu un newydd ar ol hynny. GW).