Owen Morris (Owain Meurig)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:55, 1 Rhagfyr 2022 gan 86.177.61.137 (Sgwrs)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Ychydig a wyddys am fywyd Owen Morris (1856-1918). Mab Cae'r Ffridd ym mhlwyf Llanllyfni ydoedd. Credir mai Ellen Jones (g.1824 yn Llanllyfni) oedd ei fam. Bu'n gweithio fel chwarelwr gydol ei oes. Priododd ag Annie tua 1882, a chawsant o leiaf bedwar o blant, Ellen (g.1883) a aeth yn athrawes ysgol; John Pierce. (g.1885) a weithiai fel saer; Mary Winnie (g.1886); a Nesta Catherine (g.1896).

Ar ôl priodi, a byw, mae'n ymddangos, yng Nghae'r Ffridd am rai blynyddoedd)[1], symudodd y teulu i Dan-y-ffordd, Llanllyfni. Yr oeddynt yno erbyn 1891 ond erbyn 1901 roedd cartref y teulu yn y Tŷ Capel yn Nebo ac yn y fan honno y gwnaethant aros weddill eu hoes. Codwyd Owen Morris yn flaenor Capel Nebo (MC) ym 1914.[2] Bu farw'n annisgwyl fis Awst 1918, a'i wraig wedi marw o'i flaen. Nododd Y Goleuad pa fath o gymeriad ydoedd: " Bardd, llenor a daearegwr da...wedi diwyllio ei hun yn lled helaeth".[3]

Fel bardd, mae'n debyg ei fod yn medru llunio englynion a cherddi go lew, ond prin ei fod ymysg y goreuon. Mewn tabl o'r 18 bardd gorau yn yr ardal ym 1888, fe'i gosodwyd yn bymthegfed o ran safon allan o ddeunaw bardd a oedd yn barddoni y pryd hynny.[4] Fodd bynnag, serch ei safon yn ôl y graddio hynny, cafodd nifer o'i ddarnau eu cyhoeddi yn Y Geninen tua throad y ganrif.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Genedl Gymreig, 10.10.1888, t.5
  2. Y Genedl, 5.5.1914, t.3
  3. Y Goleuad, 9.8.1918, t.7
  4. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7