Nantlle (pentref)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:39, 16 Mawrth 2018 gan Gwenhwyfar% (Sgwrs | cyfraniadau)
Jump to navigation Jump to search

Y Brodyr Francis 1876 – 1936

Dau frawd a gysylltir â Nantlle oedd Griffith William Francis (1876-1936) ac Owen William Francis (1879-1936). Fe’u ganed ym/yn Mron-y-Wern,/Bron-y-Wern, Cwm Pennant. Mudodd y teulu oddi yno i’r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i’r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.

Roeddent yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled y wlad a thu hwnt yn y 1920au a’r 1930au. Byddai’r capeli a’r neuaddau dan eu sang. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i’w ddarlledu ar y radio – a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. Griffith Francis oedd wedi cyfansoddi nifer o’r cerddi a genid ganddynt ond roeddent hefyd yn canu gwaith T. Gwynn Jones, Eifion Wyn, Crwys, R. Williams Parry ac eraill. Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Owen Francis oedd cyfansoddwr rhai o’r alawon a’r emyn donau a ganent (galwodd rai ohonynt yn Nantlle, Glyn a Meira (dau o’i blant). Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.

Cyhoeddwyd Telyn Eryri, cyfrol o gerddi Griffith Francis, gan Hughes a’i Fab yn 1932 gyda Rhagair gan E. Morgan Humphreys.

Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle:


CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI


Pan gloid y Mynydd Mawr gan iâ,

  A'r eira’n toi Eryri:

Pan geisiai’r lloer oleuo’r nos

  I aros i’r haul godi;

Âi’r llwynog castiog dan ei bwn

  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Fe ddygodd lawer oenyn gwan,

  O’r Geulan wedi nosi,

Ac ieir Caeronwy lusgodd draw

  I’w genaw dros glogwyni,

I fewn i’w ffau, heb ofni ffyn,

  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Lladratodd wyddau Blaen-y-Garth

  O’r buarth cyn eleni,

Ac o’r Ysgubor lawer haid

  O hwyaid wedi ’u pesgi;

Fe lanwai groen ei fol yn grwn

  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Ond ar ryw fore oerllyd iawn,

 Tros dalar mawn y meini,

Fe lamai’r cadno coch i lawr

  O’r Mynydd Mawr yn heini:

A chroesi’r Bala rhwng Dau Lyn

  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Ar ddôl y ffrynt ‘roedd Wil y Ffridd,

  A’r gwas, ym mhridd oer gwysi,

A gweiddi, — “Llwynog ! Byth o’r fan !

  Hwi ! dal o, Ffan, myn diawch-i,”—

Ac archai’r gwas i gyrchu gwn,

  Cyn gollwng cŵn y Gelli.


Cadd cadno frecwast i bils plwm,

 A chroesaw Cwm ddaeargi,

Ac yn lle blingo oen bach tlws—

 Ei groen ar ddrws y beudy ;

A chwarddai Wil wrth gadw’r gẁn,

 Cyn gollwng cŵn y Gelli.
                          GWF