|
|
Llinell 1: |
Llinell 1: |
| | | |
− | == Y Brodyr Francis 1876 – 1936 ==
| |
− |
| |
− | Dau frawd a gysylltir â Nantlle oedd Griffith William Francis (1876-1936) ac Owen William Francis (1879-1936). Fe’u ganed [[ym/yn]] [[Mron-y-Wern,/Bron-y-Wern]], Cwm Pennant. Mudodd y teulu oddi yno i’r Clogwyn Brwnt, Drws-y-coed, yna i’r Gelliffrydiau ac wedyn i bentref Nantlle.
| |
− |
| |
− | Roeddent yn gantorion o fri a buont yn canu ar hyd a lled y wlad a thu hwnt yn y 1920au a’r 1930au. Byddai’r capeli a’r neuaddau dan eu sang. Canu penillion oedd eu harbenigrwydd a chymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf i’w ddarlledu ar y radio – a hynny o Ddulyn ym Mawrth 1927. Griffith Francis oedd wedi cyfansoddi nifer o’r cerddi a genid ganddynt ond roeddent hefyd yn canu gwaith T. Gwynn Jones, Eifion Wyn, Crwys, R. Williams Parry ac eraill. Yn ôl Dr Aled Lloyd Davies mae lle i gredu mai hwy oedd yr enghraifft gynharaf o ganu penillion deulais yng Nghymru. Owen Francis oedd cyfansoddwr rhai o’r alawon a’r emyn donau a ganent (galwodd rai ohonynt yn Nantlle, Glyn a Meira (dau o’i blant). Eu cyfeilydd ffyddlon oedd Robert Owen, Drws-y-coed.
| |
− |
| |
− | Cyhoeddwyd ''Telyn Eryri'', cyfrol o gerddi Griffith Francis, gan Hughes a’i Fab yn 1932 gyda Rhagair gan E. Morgan Humphreys.
| |
− |
| |
− | Dyma un o’r cerddi poblogaidd a genid ganddynt, o waith Griffith W. Francis. Gelliffrydiau, Nantlle, yw’r Gelli y cyfeirir ati a Wil y Ffridd, yr heliwr yw William Hughes, Y Ffridd, Nantlle:
| |
− |
| |
− |
| |
− | CYN GOLLWNG CŴN Y GELLI
| |
− |
| |
− |
| |
− | Pan gloid y Mynydd Mawr gan iâ,
| |
− | A'r eira’n toi Eryri:
| |
− | Pan geisiai’r lloer oleuo’r nos
| |
− | I aros i’r haul godi;
| |
− | Âi’r llwynog castiog dan ei bwn
| |
− | Cyn gollwng cŵn y Gelli.
| |
− |
| |
− |
| |
− | Fe ddygodd lawer oenyn gwan,
| |
− | O’r Geulan wedi nosi,
| |
− | Ac ieir Caeronwy lusgodd draw
| |
− | I’w genaw dros glogwyni,
| |
− | I fewn i’w ffau, heb ofni ffyn,
| |
− | Cyn gollwng cŵn y Gelli.
| |
− |
| |
− |
| |
− | Lladratodd wyddau Blaen-y-Garth
| |
− | O’r buarth cyn eleni,
| |
− | Ac o’r Ysgubor lawer haid
| |
− | O hwyaid wedi ’u pesgi;
| |
− | Fe lanwai groen ei fol yn grwn
| |
− | Cyn gollwng cŵn y Gelli.
| |
− |
| |
− |
| |
− | Ond ar ryw fore oerllyd iawn,
| |
− | Tros dalar mawn y meini,
| |
− | Fe lamai’r cadno coch i lawr
| |
− | O’r Mynydd Mawr yn heini:
| |
− | A chroesi’r Bala rhwng Dau Lyn
| |
− | Cyn gollwng cŵn y Gelli.
| |
− |
| |
− |
| |
− | Ar ddôl y ffrynt ‘roedd Wil y Ffridd,
| |
− | A’r gwas, ym mhridd oer gwysi,
| |
− | A gweiddi, — “Llwynog ! Byth o’r fan !
| |
− | Hwi ! dal o, Ffan, myn diawch-i,”—
| |
− | Ac archai’r gwas i gyrchu gwn,
| |
− | Cyn gollwng cŵn y Gelli.
| |
− |
| |
− |
| |
− | Cadd cadno frecwast i bils plwm,
| |
− | A chroesaw Cwm ddaeargi,
| |
− | Ac yn lle blingo oen bach tlws—
| |
− | Ei groen ar ddrws y beudy ;
| |
− | A chwarddai Wil wrth gadw’r gẁn,
| |
− | Cyn gollwng cŵn y Gelli.
| |
− | GWF
| |