Morglawdd Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:45, 21 Mai 2019 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o'r morglawdd yn arwain tuag at Belan
Dilyw'r forfa yn rhedeg allan trwy'r llifddor i'r Foryd
Y dwr yn llifo allan i'r Foryd ar y trai

Mae Morglawdd Dinas Dinlle yn cadw'r môr rhag gorlifo dros dir Morfa Dinlle sydd bellach yn dir pori.

Yn ôl J. A. Steers, cafodd nerth llif llanw’r Fenai rhwng Niwbwrch a Dinas Dinlle yr effaith o dyddodi tywod gan ffurfio Morfa Dinlle ar y naill ochr a Warren Niwbwrch ar y llall. Ychwanegodd y llanw a’r gwyntoedd de-orllewinol at yr effaith ar y tir a, gydag amser, fe dyfodd y tafod o dywod, sydd heddiw yn benrhyn lle ceir fferm y Warren a Belan.

Cors Bodfan

Yn 1806 gwelwyd cyfle i ennill mwy o dir ar Forfa Dinas Dinlle, ac ar Fehefin 13eg, anfonwyd cais, o dan y ‘Ddeddf Amgau Tir’, at y Brenin Siôr III a’i Senedd, i adeiladu morglawdd rhwng yr afon Foryd a’r môr ym Mae Foryd. Yr ymgeiswyr oedd: “Sir Robert Williams, Baronet, Lord of the Manor of Nanthwynant The Right Reverend William, Lord Bishop of Bangor, Lord of the manor of Castellmai The Right Honourable Thomas, Lord Newborough, Sir Hugh Owen Bt Thomas Assheton-Smith Esquire And several other persons”

Comisiynwyd y gwaith gan Walter Jones, Cefn Rhug, Corwen, a byddai ef yn gyfrifol am osod allan a rhannu’r tir a ennillwyd. Roedd bwriad i adeiladu llifddorau yn y morglawdd er mwyn rhwystro’r môr rhag lifo i mewn dros y tir ar y llanw, ac i ganiatau i Afon Foryd lifo allan i’r bae ar y trai, - ac, wrth gwrs, i ychwanegu at dirfeddiant yr ymgeiswyr. Derbynwyd caniatâd i weithredu’r brosiect ar 31ain Awst 1808. Ysgrifennodd Walter Jones lythyr (X/POOLE/1396) at O A Poole, twrne o Gaernarfon, yn datgan ei fod wedi derbyn cynllun o’r morglawdd ac amcanbris o’r gost i’w adeiladu. Yr oedd yn ymwybodol bod £1000 mewn llaw tuag at y costau ond byddai angen £1500 ychwanegol cyn dechrau ar y gwaith o’i adeiladu; ni welai anhawster morgeisio’r morfa, a gellid dechrau ar y brosiect tua diwedd Medi 1808. Roedd yn ofynnol i ddeiliaid y rhandiroedd gyfrannu tuag at gynhaliaeth y morglawdd, - sef deg swllt yr un am y flwyddyn gyntaf. Cytunodd pob un ond un o’r deiliaid, sef Bodvel Roberts Ysw. Mae tystiolaeth (XD2/9139, XD2/10109 ac XD11509) bod y morglawdd wedi cael ei hatgyweirio nifer o weithiau:

  • 29 Mawrth 1838, cais i’r Arglwydd Newborough gasglu treth o £24-4-3 i atgyweirio oddiwrth daliaid rhandir 1 Park Mawr; 2 Vaynol Marsh; 3 Modryn Marsh; 4 a 5 Garnon’s Park; 6 Bwlan Marsh; 7 Gwernyfala Marsh; 8 Modryn Marsh; 9 a 10 Warren. Talwyd y swm ar 6ed Ebrill 1838 trwy law David Williams.
  • 17 Mai 1844, cais i’r Arglwydd Newborough gasglu 1/- yn y bunt o’r cyfanswm o £217-13-4 oddiwrth daliaid rhandiroedd rhifau 31-38, 60 a 76. Talwyd £10-17-8 ar 24ain o Orffennaf 1844 trwy law John Jones, casglwr trethi Plwyf Llandwrog. 1906, Siamber Wen Charity; 1914, 1918, 1938-39/40.
  • Yn ystod yr ail rhyfel byd sefydlwyd gwersyll hyfforddi i’r Awyrlu ar y Morfa, lle mae Maes Awyr Dinas Dinlle heddiw ac atgyweirwyd y morglawdd yn 1942, yn ystod eu presenoldeb yn yr ardal.
  • Yn ystod gaeaf 2011/2012 caewyd y llwybr cyhoeddus a redai am 800 medr ar hyd y morglawdd am rai misoedd er mwyn ei atgyweirio; arweinwyd y dasg gan Asiantaeth yr Amgylchedd (sydd erbyn hyn wedi ymuno â’r Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad i ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru). Mae’r strwythur yn diogelu 117 erw o borfa a thwyni tywod sy’n cynnwys maes awyr, 42 o gartrefi a maes carafanau rhag gorlifiadau. Roedd y morglawdd angen ei atgyweirio oherwydd difrod gan gwnhingod a mamaliaid eraill, hefyd roedd angen tynnu allan y cable BT a redai drwyddo - roedd wedi ei gorchuddio âg asbestos. Codwyd lefel y morglawdd wrth gloddio pridd i fyny oddiar y tir cyfochrog, ac ar yr un pryd yn darparu man bwydo delfrydol i adar hirgoes, y gornchwiglen yn enwedig, ynghyd â’r pibydd coeswerdd, pibydd coesgoch, gïach bach, morwennol a chwiwell.

Mae’r tir o’i gwmpas erbyn hyn yn Warchodfa dan ofal yr RSPB a Glastir (sydd wedi ei sefydlu yn lle Tir Gofal, Tir Cynnal, Tir Mynydd, Organic Farming Scheme a Better Woodlands for Wales). Adnewyddwyd dwy llifddor sy’n rheoli’r llanw rhag llifo i mewn tuag at y tir, ac yn caniatáu llif Afon Foryd allan i Fae Foryd gyda’r trai. Yn ôl y sôn fe gostiodd y brosiect yn 2012 £180,000.

Mae llwybr cyhoeddus ar hyd top y morglawdd hyd at hen ffin, ger fferm y Warren, rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Fe elwir y llwybr yn Llwybr y Cob. Wrth gofrestru llwybrau yn y 1950au, mae'n debyg i swyddogion plwyf Llanwnda anghofio cofrestu eu darn hwy o'r llwybr.

Ffynonellau[golygu]

  • Steers J.A. The Coastline of England and Wales
  • Archifdy Caernarfon X/POOLE/1396, XD2/9139, XD2/10109 ac XD11509