Melin Goed Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:14, 17 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Mae adeilad Melin Goed Glynllifon yn sefyll hyd heddiw, a dŵr a droïr o Afon Llifon yn dal i redeg trwy'r cafn melin at yr adeilad. Mae llawer o'r offer a ddefnyddid i gynhyrchu trydan ar gyfer plasty Glynllifon yn dal yn yr adeilad - un o adeiladau cyntaf yn y sir i gael ei oleuo gyda thrydan tua dechrau'r 20g. Defnyddid y dŵr cyn hynny ac wedi hynny hefyd i droi melin lifio coed at ddefnydd yr ystâd. Eto, mae darnau sylweddol o'r peiriannau a'r fainc lifio i'w gweld hyd heddiw.[1]

Dyma felin isaf Afon Llifon, sy'n llifo'n dawel o'r fan hyn ar draws tir gweddol wastad at ei haber ger Tŷ Mawr. Mae cofnod o'r flwyddyn 1858 fod coed ar gyfer codi Ysgol Ynys-yr-arch wedi eu llifio yma[2] ond mae'n debyg i'r felin fod yn weithredol am flynyddoedd cyn hynny.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwybodaeth leol
  2. Archifdy Gwynedd XD2/26170.