Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mathonwy Hughes"
Malan% (Sgwrs | cyfraniadau) |
|||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
− | |||
− | Yr oedd Mathonwy Hughes (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tanrallt a Chwm Silyn. | + | |
+ | Yr oedd '''Mathonwy Hughes''' (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tanrallt a Chwm Silyn. | ||
− | Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i | + | Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i oedolion, a bu’n athro ar ddosbarthiadau felly. |
− | Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych. Bu ei gyfraniad ef a Gwilym R. Jones, y golygydd, i newyddiaduraeth yng Nghymru | + | Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych. Bu ei gyfraniad ef a [[Gwilym R. Jones]], y golygydd, i newyddiaduraeth yng Nghymru ac i holl fywyd y genedl, yn arbennig ei bywyd llenyddol, yn ddifesur, a hynny am gyflog pitw iawn. |
Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol Aberdâr yn 1956 am ei awdl ''Y Wraig''. | Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol Aberdâr yn 1956 am ei awdl ''Y Wraig''. | ||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Cyhoeddodd ei hunangofiant ''Atgofion Mab y Mynydd'' (1982); cyfrol am ei gyfaill pennaf ''Awen Gwilym R.'' (1980) a Darlith Llyfrgell Pen-y-groes ''Bywyd yr Ucheldir'' (1973). | Cyhoeddodd ei hunangofiant ''Atgofion Mab y Mynydd'' (1982); cyfrol am ei gyfaill pennaf ''Awen Gwilym R.'' (1980) a Darlith Llyfrgell Pen-y-groes ''Bywyd yr Ucheldir'' (1973). | ||
− | Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn 2001 | + | Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn 2001: ''Cofio Mathonwy''. |
+ | |||
+ | ==Ffynhonnell== | ||
+ | ''Chwareli Dyffryn Nantlle'', Dewi Tomos, Llyfrau Llafar Gwlad (67), Gwasg Carreg Gwalch, 2007. | ||
+ | |||
+ | ''Amryw Bethau'', Thomas Parry, Gwasg Gee. 1996. | ||
+ | |||
+ | [[Categori:Pobl]] |
Y diwygiad cyfredol, am 15:21, 10 Mawrth 2020
Yr oedd Mathonwy Hughes (1901-1999) yn nai i'r bardd R. Silyn Roberts, y ddau wedi eu geni ym Mrynllidiart, ar y Cymffyrch rhwng Tanrallt a Chwm Silyn.
Bu yn Ysgol Clynnog am gyfnod; enillodd iddo’i hun ddiwylliant eang trwy ddilyn dosbarthiadau i oedolion, a bu’n athro ar ddosbarthiadau felly.
Casglwr yswiriant ac is-olygydd Y Faner (1949-1977). Cartrefodd yn Ninbych. Bu ei gyfraniad ef a Gwilym R. Jones, y golygydd, i newyddiaduraeth yng Nghymru ac i holl fywyd y genedl, yn arbennig ei bywyd llenyddol, yn ddifesur, a hynny am gyflog pitw iawn.
Yr oedd yn fardd cynhyrchiol. Enillodd gadair genedlaethol Aberdâr yn 1956 am ei awdl Y Wraig. Cyhoeddodd 4 cyfrol o farddoniaeth: Ambell Gainc (1957), Corlannau (1971), Cneifion (1979), Cerddi’r Machlud (1986), a 5 cyfrol o ysgrifau: Myfyrion (1973), Dyfalu (1979). Gwin y Gweunydd (1981), Chwedlau’r Cynfyd (1983), a Y Pryf yn y Pren (1991).
Cyhoeddodd ei hunangofiant Atgofion Mab y Mynydd (1982); cyfrol am ei gyfaill pennaf Awen Gwilym R. (1980) a Darlith Llyfrgell Pen-y-groes Bywyd yr Ucheldir (1973).
Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn 2001: Cofio Mathonwy.
Ffynhonnell[golygu]
Chwareli Dyffryn Nantlle, Dewi Tomos, Llyfrau Llafar Gwlad (67), Gwasg Carreg Gwalch, 2007.
Amryw Bethau, Thomas Parry, Gwasg Gee. 1996.