Maen Dylan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Maen Trwyn Dylan - geograph.org.uk - 250185.jpg
MaenDylan.png

Mae Maen Dylan yn garreg anferth ar lan y môr ar y traeth i'r gogledd o Aberdesach, oddi ar Drwyn Maen Dylan.

Honnir mai cyfeirio at Dylan ail Don, cymeriad o Bedwaredd Gainc y Mabinogi, y mae'r enw. Yn sicr, fe gysylltir ei hanes ag ardal Clynnog Fawr.

Yn ôl chwedl Math fab Mathonwy, cyn gynted ag y bedyddiwyd ef,

   "Fe gyrchodd y môr ac fe gafodd natur y môr. Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don."

Un o ystyron y gair 'ail' (neu 'eil' yn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol) yw 'mab' neu 'etifedd' (gall hefyd olygu 'llwyth' neu 'genedl'). Ond y mae'n bosibl mai ymgais gan awdur y Pedair Cainc i esbonio'r enw hwn yw'r stori am ei eni o'r môr, ac mae rhai ysgolheigion yn dadlau fod Dylan yn dduw Celtaidd ac yn fab i'r dduwies Geltaidd adnabyddus Dôn (fel Gwydion ei hun). Fe gafodd Dylan ei ladd ar ddamwain gan ei ewythr, Gofannon.

Ceir sawl cerdd yn Llyfr Taliesin a dadogir ar Taliesin Ben Beirdd sy'n cyfeirio at Dylan, ac yn y llawysgrif honno ceir marwnad iddo yn ogystal. Un o'i enwau amgen yn nhestunau Llyfr Taliesin yw 'Dylan Ail Môr'.[1]

Yn Englynion y Beddau (Llyfr Du Caerfyrddin), dywedir fod bedd Dylan yn ardal Clynnog Fawr yn Arfon, Gwynedd:

   Yn ydd wna ton dolo
   Bedd Dylan (yn) llan Beuno.[2]

Serch yr hen hanes, rhaid ei gyfrif yn chwedl yn hytrach na ffaith.

Cysylltir ton hefyd â Dylan yn yr un lle. Meddai Syr Ifor Williams:

 "Maen Dylan ar y traeth, a Thon Dylan yn torri'n lleddf ar y feisdon gan gwynfan byth fel yn nyddiau Taliesin am yr ergyd y daeth ei angau ohono trwy law Gofannon ei ewythr.  "A hwnnw," medd y Trioedd, "a fu trydydd anfad ergyd."  Mae'r rhain wedi mynd yn rhan ohonom. Clywais neithiwr ferch o'r ardal yn dweud fod clywed su y don honno yn yr hwyr yn codi hiraeth llethol arni, na wyddai am beth, na wyddai pam." [3]


Cyfeiriadau

  1. Wicipedia: Dylan ail Don, adalwyd 10.04.2018
  2. A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982).
  3. Syr Ifor Williams, "I Ddifyrru'r Amser" tud. 29 (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1957).