Llyn y Gader

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Llyn y Gader (neu Llyn y Gadair fel y'i gelwir hefyd) i'r de o bentref Rhyd-ddu ac, yn dechnegol, mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai ond dyma darddiad Afon Gwyrfai neu, fel y'i gelwir yn yr ardal, Afon Cwellyn neu Afon Llyn y Gader. Fodd bynnag, mae ffin plwyf Llanwnda, ac felly ffin Uwchgwyrfai, yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y fan lle mae'r afon yn cychwyn ar ei thaith o'r llyn. Craig fawr ar ffurf cadair sy'n codi o'r llyn ar ochr yr ogledd-orllewinol iddo a roddodd ei enw iddo ac fe'i hanfarwolwyd hefyd yn un o sonedau enwocaf y bardd o Rhyd-ddu, T.H. Parry-Williams, sy'n dechrau â'r llinellau:

 Ni wêl y teithiwr talog mono bron
   Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
 Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
   Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
 Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
   A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
 Fel adyn ar gyfeiliorn, neu fel gŵr
   Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan.[1] 

Cyfeiriadau

1. T.H. Parry-Williams, Detholiad o Gerddi, (Gwasg Gomer, 1972), t.35.