Llyn Nantlle Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:00, 29 Ionawr 2019 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Safai Llyn Nantlle Isaf ar lawr Dyffryn Nantlle gyferbyn â Phlas Tal-y-sarn i'r gogledd a Gwernor i'r de. Roedd wedi ei gysylltu â Llyn Nantlle Uchaf gan hyd byr o'r Afon Llyfnwy a redai trwy'r llyn. Ar y dechrau, roedd bron cymaint â'r llyn uchaf. Rhedai Afon Llyfnwy allan o'r llyn ger Pont Sarn Wyth-dŵr.

Roedd Chwarel Pen-y-bryn a Chwarel Dorothea ar y glannau gogleddol a Chwarel Gwernor i'r de ac o dipyn i beth fe gyfyngwyd ar faint y llyn trwy i'r chwareli ollwng gwastraff i'r dŵr. Roedd cryn dipyn o'r llyn wedi diflannu dan y tipiau erbyn arolwg Ordnans 1888 ac erbyn 1901 roedd y llyn wedi colli tri chwaretr yr arwynebedd oedd wedi bod ar ôl 13 mlynedd ynghynt, gyda cwrs Afon Llyfnwy wedi ei wyro at ylan ochr Gwernor i'r dyffryn, a llawer o dir corsiog gyferbyn â Chwarel Dorothea. Erbyn 1913, dim ond pwll corsiog oedd ar ôl yn llawn brwyn, ac erbyn map 1949 roedd y map yn dangos yr un llyn yno o gwbl, a hyd yn oed enw'r llyn wedi dileu - er i'r llyn uchaf yn dal i gael ei alw'n Llyn Nantlle Uchaf.[1]

Erbyn hyn nid oes dim byd o'r llyn ar ôl eithr tir gweddol gorsiog ar waaelod y rhan honno o'r dyffryn.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, i'w gweld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, [1]