Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llwyn-y-gwalch"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 3: Llinell 3:
 
Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>
 
Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.
+
Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar [[Melin Llwyn-y-gwalch|felin]] yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.
  
Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] a anwyd ym [[Bodgarad|Modgarad]], ond a symudodd gyda'i deulu i [[Tyddyn Tudur|Dyddyn Tudur]] ger [[Plas Glynllifon]] maes o law.<ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwts, 2008), t.8</ref>
 
Y diwygiad cyfredol, am 13:00, 9 Gorffennaf 2019

Mae Llwyn-y-gwalch yn ffermdy ym mhlwyf Llandwrog. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[1]

Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[2] Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.[3]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar felin yn Llwyn-y-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.

Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon a anwyd ym Modgarad, ond a symudodd gyda'i deulu i Dyddyn Tudur ger Plas Glynllifon maes o law.[4]

Chwedl am yr enw[golygu]

Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol a arferai fyw yn Grugan Wen farw ac am adael tir i'w chwe mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys fod ei fab Iago i gael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar, Morgan i gael melin, ac Ifan i gael hafod gyda'r a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall, nad oedd yn ei gymeradwyo) i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm a thir Melin Forgan, fferm Hafod Ifan, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae Grugan Wen hefyd nid nepell o'r chwe daliad tir hyn.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
  3. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  4. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwts, 2008), t.8
  5. Hanes y Groeslon, (2000), t.15.