Lôn Cefn Glyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:24, 21 Mehefin 2022 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Adeiladwyd Lôn Cefn Glyn yn yr 1830au wrth i Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough ail-lunio'r tir o gwmpas Plas Glynllifon, gan godi wal saith milltir o hyd o gwmpas y parc ar ei ffurf newydd. I'r gogledd o'r plas, newidiwyd ffiniau ffermydd yr ystad, ac ail-drefnwyd yr hen ffordd blwyfol sydd yn rhedeg o'r mawndiroedd a'r mynydd agored ar draws gweundir Rhosnenan lle saif pentref Y Groeslon heddiw, ac ymlaen i dreflan Ffrwd ac eglwys plwyf Llandwrog. Enw lleol ar y lôn a sefydlwyd wrth ochr y wal o'r Groeslon hyd Ffrwd oedd "Lôn Cefn Glyn" ac erbyn hyn mae'n cael ei gydnabod ar arwyddion ffyrdd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol a lleol