John Roberts, Lleiniau Hirion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:22, 11 Chwefror 2020 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Ychydig a wyddom am John Roberts, un o feirdd yr Hendre (gwaelod plwyf Llanaelhaearn). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.

Ym 1832 aeth i Sasiwn Pwllheli lle y pregethai John Elias o Fôn ag arddeliad arbennig ar 'Berson Crist'. Cafodd y bregeth ysgytwol hon effaith mawr ar John ac yn ystod yr awr ginio yn yr ysgol y diwrnod dilynol, eisteddodd ar ben camfa ger y capel a'r plant yn chwarae o'i amgylch. Cyfansoddodd y pennill hwn, seiliedig ar bregeth John Elias :


Mab uniganedig, un odiaeth,
'R un fath ei naturiaeth â'r Tad,
'R un oedran, 'r un anian, 'r un enw,
'R un ddelw - hardd loyw, 'r un wlad ;
'R un iaith, yr un waith, yr un ethol,
'R un 'wyllys i'w bobl gael byw,
'R un nerth, yr un gwerth, yr un gwyrthiau,
'R un geiriau, 'r un deddfau, 'r un Duw.


Ar ôl yr ysgol y diwrnod hwnnw, aeth John draw i hen fferm y Gwynus yn y Pistyll at hen wreigan dduwiol oedd yn byw yno, ac adrodd ei bennill newydd iddi. Aeth y ddau i orfoleddu a moliannu wrth ganmol Crist. Yr hen wraig honno gofiodd y pennill.