John Jones (Ioan Eifion)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:37, 3 Tachwedd 2022 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Bardd a chrefyddwr gyda'r Bedyddwyr oedd John Jones (Ioan Eifion) 1839-1909.

Bu'n byw ym Mhen-y-groes a gweithiai fel gof o ran ei grefft. Roedd yn aelod amlwg ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr ac roedd yn selog hefyd o blaid dirwest. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth ond yn ôl Cybi ni ddaeth i amlygrwydd neilltuol fel bardd ac ni fu'n cystadlu am brif wobrau fel coronau a chadeiriau. Fodd bynnag, cyhoeddodd lyfryn o ffrwyth ei awen dan y teitl Y Blaguryn. Dywed Cybi ymhellach iddo ef weld peth o'i waith anghyhoeddedig mewn llawysgrifau a gedwid gan John Williams, Eirianlys, Tal-y-sarn. Cyfansoddodd Ioan Eifion hefyd gywydd coffa i Fanny Jones, gwraig y pregethwr nodedig John Jones, Tal-y-sarn, a cheir dyfyniadau ohono yn y cofiant i Fanny Jones a ysgrifennwyd gan Llew Owain - sy'n enghraifft brin o gofiant i wraig o'r 19g. Un arall o gynhyrchion Ioan Eifion oedd llyfr bach o'r enw Gemau Doethineb, sy'n cynnwys detholiad o ddarnau barddoniaeth a rhyddiaith moeswersol eu natur.[1]

Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreig ym 1888, fe’i gosodwyd yn safle 16 allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[2] Dichon felly i hynny dystio i'w allu fel bardd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), tt.67-9.
  2. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7