John Jones, Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:26, 5 Medi 2018 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd John Jones (1796-1857). Ystyrid "John Jones, Tal-y-sarn" yn radical peryglus gan John Elias (1774-1841), ond a bod yn wrthrychol, roedd John Elias yn ddyn â rhagfarnau yn erbyn y rhai na chytunai ag ef.

Gan fod cyfnither John Jones wedi priodi efo Griffith Williams, un o oruchwylwyr Chwarel Tal-y-sarn cafodd swydd yno ym 1822. Priododd y flwyddyn wedyn efo Fanny, merch Thomas Edwards, goruchwyliwr Chwarel Cloddfa'r Lôn. Gadawodd y chwarel ac aeth Fanny i gadw siop y drws nesaf i'r capel ac wrth ymyl y chwarel hefyd. Gwerthid popeth o duntur riwbob i arfau chwarel! Nodwedd o fywyd pregethwyr y cyfnod, ac yn enwedig pregethwyr Methodistaidd, oedd yr arferiad i'w gwragedd gadw siop tra'r elent hwy ar deithiau pregethu.

Ym 1848 daeth y les ar Chwarel Dorothea i ben a ffurfiodd John Jones ac eraill gwmni lleol i'w rhedeg. Ond er ei fod ef a'i bartneriaid yn deall y graig dechreuodd y fasnach lechi ddirywio yn gyffredinol. Gostyngwyd cyflogau a daeth yntau dan lach y gweithwyr. Aeth pethau yn waeth arno pan gyhuddwyd ef o fod yn annheg drwy ddiswyddo ei weithwyr gorau. Cyfiawnhai yntau hyn am ei fod yn ceisio sicrhau gwaith i'r chwarelwyr tlotaf, oedd efallai yn llai o grefftwyr.

Ym 1852 bu ond y dim iddo gael damwain angeuol yn y chwarel ac o ganlyniad penderfynodd dorri ei gysylltiad efo'r diwydiant a gwerthodd ei holl gyfranddaliadau.  Pan fu farw bum mlynedd yn ddiweddarach rhoddwyd ei gorff yn ddiddos mewn tair arch, arch dderw, arch fahogani ac i goroni'r cwbl, arch lechen. Ac i selio'r diddosrwydd rhoddwyd maen coffa enfawr ar ei fedd ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. 

Daeth John Lloyd Jones, (1826-93) ei fab hynaf, o Blas y Bryn, Y Bontnewydd yn un o brif reolwyr Chwarel Dorothea ac hefyd Chwarel Pen-yr-orsedd. Bu Fanny Jones farw ym 1877. Ni ddylid anghofio ychwaith fod John Jones yn daid i'r heddychwr George M. Ll. Davies (1880-1949).

Diddorol yw cofnodi hefyd fod John Jones yn un o arwyr mawr David Lloyd George, gyda phortread o John Jones yn cael lle amlwg yn Stryd Downing pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys ac yna yn Brif Weinidog. Seiliwyd llawer o'r erthygl gychwynnol ar wefan Llechi Cymru, sef Llechwefan, 2002.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Llechwefan, [1]