John Evans, Clochydd Llanfaglan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:53, 25 Mehefin 2021 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Clochydd plwyf Llanfaglan tua chanol y ddeunawfed ganrif oedd John Evans. Dywed Myrddin Fardd yn ei gyfrol Enwogion Sir Gaernarfon iddo fethu â darganfod unrhyw wybodaeth am y dyn yma, heblaw fod dwy gerdd foeswersol o'i waith wedi cael eu hargraffu yn Amwythig (lle'r argreffid llawer o lyfrau Cymraeg bryd hynny), y naill ym 1747 a'r llall ym 1751. "... Cerdd yn rhoi hanes dau o gymdeithion hawdd eu hebgor, sef cenfigen a'r cybydd" yw'r gyntaf, tra bo'r llall yn rhoi hanes haint yn lladd holl anifeiliaid gŵr a gwraig o Sir Gaerwrangon (Worcestershire), ac fel y bu i'r wraig regi Duw am eu hanffawd gan achosi i'w sefyllfa waethygu ymhellach. Mae'n amlwg nad oedd gan Myrddin fawr o feddwl o'r caneuon, oherwydd mae'n dweud "mai hanes yn y modd mwyaf trwstan a llipa, ar lun mydr, mewn iaith glogyrnog a charpiog ydynt".[1]

Dichon iddo farw ym 1753, gan fod cofnod yng nghofrestr pwyf Llanfaglan yn nodi claddedigaeth "John Evan, parish clerk" ar 30 Medi 1753.[2] Mae'n bosibl hefyd mai ym 1721 y priododd, gan fod cofnod am un John Evans yn yr un gofrestr, a briododd â Margaret Thomas, ar 21 Ebrill y flwyddyn honno. Priododd yr un John Evan neu John Evan arall o'r un plwyf 22 Ebrill 1738, â dynes o'r enw Margaret ferch Richard. Tybed a oedd dau John Evan yn y plwyf, neu a oedd Margaret ferch Richard yn ail wraig i'r un un?

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, tt.75-6.
  2. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llanfaglan