Hugh Owen Parry (Homo Goch)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:11, 9 Rhagfyr 2022 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Chwarelwr ac amaethwr oedd Hugh Owen Parry (1838-?1906) a fabwysiadodd yr enw barddol "Homo Goch". Fe'i ganed ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, o bosibl yn fab i Robert Parry (g.1799), gwas fferm a'i wraig Ann, Sarn Las, Llanidan.[1]. Mae'n bosibl hefyd mai ef oedd yr Hugh Parry a oedd yn was fferm 13 oed ar fferm Cefnmawr Isaf, Niwbwrch ym 1851.[2]

Erbyn 1871, roedd wedi priodi â Mary (1840-1907), merch o blwyf Penmorfa. Erbyn hynny, roedd Hugh Parry'n gweithio fel chwarelwr, gan fyw yn un o dai Tan-y-bwlch, Mynydd Llandygái.[3] Mae'n bosibl, fodd bynnag, os yw'r Cyfrifiad am 1881 yn gywir, fod y teulu wedi bod yn byw ym mhlwyf Clynnog Fawr cyn hynny, canys dyna'r plwyf lle cafodd eu hunig blentyn, Ann Ellen Parry, ei geni ym 1867. Yn sicr, erbyn 1881 roedd y teulu wedi ymsefydlu'n barhaol yn fferm fach Pen-yr-yrfa yn y darn hwnnw o blwyf Clynnog a ddaeth wedyn yn rhan o blwyf Llanllyfni - er Pen-yr-yrfa, Nebo oedd y cyfeiriad yn ôl Hugh Parry. Fferm fechan 14 erw oedd Pen-yr-yrfa ar ffin Cors y Llyn a dim ond lled cae o hen ffin plwyf Llanllyfni. Ym 1881, disgrifir Hugh Parry fel chwarelwr a ffermwr, ond ym 1891 ac 1901, fe'i disgrifir fel ffermwr yn unig.[4]

Daeth rhyw anffawd i'w ran (o ran salwch neu ffermio efallai) yn ystod Gaeaf 1903-4, pan gyhaliwyd cyngerdd gyda'r elw yn mynd i'w helpu "yn ei adfyd". Mae'r rhestr o artistiaid yn tueddu i awgrymu ei fod yn ddyn a ystyrir yn aelod gwerthfawr o'r gymuned:

CYNGERDD. — Cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgol y Cyngor, Nebo, nos Wener, dan arweiniad Ieuan Nebo. Cadeirydd, Mr W. John Griffith. Dorothea. Cyfeilydd, Mr J. Owen, Tal-y-sarn. Adroddwyr, Mri J. R. Williams, Nebo ac Isaac B. Williams, Nantlle. Cantorion: Misses M. King Sarah., Dora Williams, Mrs O. Ellis Jones. Mri G. ac O. W. Francis. Nantlle; Walter a D. D. Jones, Llanllyfni; E. Lloyd Jones, Nebo; S. W. Jones, Pen-y-groes a Chôr Meibion Glandulyn, dan arweiniad Mr D. D. Griffith (Alaw Dulyn). Elai yr elw i gynnorthwyo Mr H. O. Parry (Homo Goch) yn ei adfyd.[5]

Mae'n bosibl y bu farw ar ddechrau 1906. Bu farw ei wraig Mary fis Mehefin 1907, ac erbyn hynny roedd hi wedi symud i Tanrhiw, Nebo. Yn ôl y papur lleol roedd hi'n ferch "i'r diweddar ddiacon parchus o'r gymdogaeth, Mr Richard Griffith, Pandyhen, cymeriad ag ydoedd yn gynrychiolydd lled gywir o'r oes o'r blaen a'i nodweddion. Yr ydoedd hithau yn gymeriad crefyddol unplyg a gonest."[6]

Roedd nifer o feirdd eraill wedi mabwysiadu'r ffugenw Homo Goch, un o gyffiniau Bangor a oedd yn Wesla selog, ac un arall o'r de[7]; ac yn nes o lawer, dyna oedd ffugenw William Gwenlyn Evans, Rhes Cwstennin, Caernarfon, y newyddiadurwr a'r argraffydd.[8] Yr enghraifft gyntaf o Hugh Owen Parry'n defnyddio'r ffugenw yw cerdd yn Y Frythones dyddiedig 1891.[9] Dros y blynyddoedd nesaf anfonodd ambell i gerdd at bapurau megis Papur Pawb. Cerddi digon rhigymllyd ydynt gan fwyaf, heb unrhyw ymdrech at ddefnyddio'r gynghanedd. Yn Y Werin ym 1893 cafwyd llythyr oddi wrth ohebydd anhysbys yn ei gyhuddo o lên-ladrad trwy gopïo cerdd gan Lewis Jones, Y Bala a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Geiniogwerth ym 1840. Wrth gymharu'r ddwy gerdd, mae'n amlwg fod gwaith Homo Goch, ar y gorau, yn benthyca'n drwm iawn oddi wrth waith Lewis Jones o ran y geiriau, yr odlau, y mydr a'r neges heb gyflwyno gwelliant o unrhyw fath - a heb gydnabod y gwreiddiol o gwbl![10]

Gellid disgrifio Homo Goch fel rhigymwr digon twt ond arwynebol, bardd hollol leol at iws ei gymuned, fel y profodd wrth gyflwyno "anerchiad barddonol" yng nghyfarfod llenyddol a cherddorol Nebo ym 1897.[11] Dyma enghraifft nodweddiadol o'i gynnyrch barddonol:

           I FYNY Â'R FANER.  
I fyny â'r faner chwi Gymry gwladgarol, 
  I ymladd yn erbyn pob gorthrwm a thrais, 
Mae yspryd ein tadau yn llefain yn uchel, 
 "Na phlygwch eich gliniau i Sgotyn na Sais." 
Mae gorthrwm arglwyddi, a'u trachwant am amcan, 
 Yn llosgi fel eirias o dân yn fy nghnawd, 
A'm gwaed sydd yn myned fel crochan berwedig 
 Pan welwyf y gweithiwr i'r rheiny yn wawd. 
Mae'r ddraig fu'n cyhwfan am gannoedd o flwyddi 
 Ar greigiau a chestyll uchelgryf ein gwlad 
A gormes canrifoedd sy'n crymu ein cefnau, 
 Yn galw pob Cymro i uno â'r gad. 
O, deuwch i'r frwydr yn lluoedd urddasol, 
 Mae tynged ein cenedl yn sefyll yn hon, 
Ymladdwn yn wrol, a chawn fuddugoliaeth, 
 Ac yna fe ganwn yn llawen "Llwyn-onn." 
   Pen yr Yrfa.                       HOMO GOCH.[12]

Efallai bod mesur teg o'i dalent yn ôl barn beirdd yr ardal i'w gael mewn rhestr o ddeunaw bardd o Ddyffryn Nantlle, lle nad yw'n cael ei restru o gwbl.[13]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiad plwyf Llanidan, 1841
  2. Cyfrifiad plwyf Niwbwrch, 1851.
  3. Cyfrifiad plwyf Llandygái, 1871
  4. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1881-1901
  5. Yr Herald Cymraeg, 22.3.1904, t.8
  6. Yr Herald Cymraeg, 11.6.1907, t.5
  7. Y Drych, 29.11.83, t.2
  8. Y Goleuad, 1.1.1876, t.13
  9. Y Frythones, Cyf.XIV, 2, Chwefror 1891, t.51
  10. Y Werin, 7.10.1893, t.3
  11. Yr Herald Cymraeg, 30.3.1897, t.5
  12. Papur Pawb, 8.10.1898, t.13
  13. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7