Hafan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:05, 12 Awst 2020 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Cof y Cwmwd


Llandwrog o'r lon bost, tua 1985
NEWYDDION

'DAN NI'N DAL I DYFU - MWY O STWFF OND DAL ANGEN MWY ETO!

BRON I 1050 O ERTHYGLAU ERBYN HYN

Ymysg yr ychwanegiadau diweddaraf mae cyfieithiadau i'r Gymraeg o Ladin ganoloesol wreiddiol y Record of Caernarvon a hanes rhyfeddol y brodyr Griffiths o blwyf Llandwrog a lofruddiwyd yng Nghanada.

FFYNONELLAU ERAILL

Os nad ydych yn cael hyd i'r wybodaeth yr ydych ei cheisio yma, mae gennym restr o fannau eraill ar y We a allai eich helpu. Cliciwch yma i'w gweld.

Daliwch ati i ymweld â ni ac i gyfrannu - a chadwch yn iach rhag y feirws!


Croeso i Cof y Cwmwd. Mae'n gweithio'n debyg iawn i Wicipedia. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.

Uwchgwyrfai

Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern Betws Garmon. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd. Cof y Cwmwd yw un o weithgareddau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Diolch i'n noddwyr presennol, ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu sefydlu'r wefan hon.

Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.


Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Sbectol.png

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl
  1. Arthur Acland
  2. Gwynedd Rhun Jones
  3. John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol
  4. John Roberts, Hafod-y-Wern, Clynnog
  5. Tirion Pelyn
  6. Bryn Gwydion
  7. Bryn Arien
  8. Sioe Pontlyfni
  9. Cloc Haul Clynnog Fawr
  10. Bryn Beddau
  11. Y Foryd Bach
  12. Harbwr Llanfaglan
  13. Cwm Mynaches
  14. Y Brodyr Griffith, Tryfan Mawr
  15. Llanwnda (trefgordd)
  16. Y Degwm
  17. Bryncynan (trefgordd)
  18. Cwm
  19. Nancall
  20. Bodellog

Cyfanswm: 1,059 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Allweddell.jpg

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we.Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.

Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun - neu cliciwch yma.

Enwau lleoedd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Am restr o'r enwau hyn gweler [1] am restr o enwau Lloegr; a [2] am restr o enwau lleoedd yr Alban.

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

YGanolfan.jpg

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net.


Dyffryn Nantlle - panorama.JPG