Hafan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:28, 13 Chwefror 2020 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Cof y Cwmwd


Crib Nantlle o'r Fron


NEWYDDION

'WAW!!!' WEDI PASIO'R 900!!!

Diolch i bawb a fu wrthi er mwyn i ni gyrraedd y nifer ryfeddol hon o erthyglau....OND peidied neb â meddwl ein bod wedi gorffen. Y funud hon, 'dan ni'n gwybod am 332 o bynciau sydd heb erthygl amdanynt!! Felly dewch i'r SESIWN GYFRANNU 20 CHWEFROR. Cynhelir sesiwn agored i gyfrannu erthyglau a ffeithiau at Cof y Cwmwd yn Ysgoldy Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, o 7 tan 9 nos Iau, 20 Chwefror. Anfonwch air at wiciuwchgwyrfai@tiscali.co.uk os hoffech ddod - y cwbl fydd angen arnoch fydd gliniadur neu i-Pad sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd, gan fod wi-ffi ar gael yn yr Ysgoldy. Bydd hyfforddiant ar gael i gyfranwyr newydd.


Cyflwyniad

Uwchgwyrfai

Croeso i Cof y Cwmwd. Mae'n gweithio'n debyg iawn i Wicipedia. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys hanner plwyf modern Betws Garmon. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd Afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. Hawdd iawn yw ychwnegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd, ac rydym yn eich gwahodd yn gynnes iawn i wneud hynny.

Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.

Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Sbectol.png

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan
  1. Tom Sarah
  2. Mary King Sarah
  3. Brigantîn yr ''Ion''
  4. Sgwner y ''Zion Hill''
  5. Slŵp yr ''Arvon Lass''
  6. Smac y ''Laura Ann''
  7. Smac yr ''Ellen Glynne''
  8. Slŵp y ''Speedwell''
  9. Slŵp y ''Nancy''
  10. Llongddrylliadau
  11. Llongddrylliadau Uwchgwyrfai
  12. Cae'r Foty Bach, Trefor
  13. Bad achub Trefor
  14. Gorsaf bad achub Trefor
  15. Gorsaf bad achub Llanaelhaearn
  16. Chwarel Craig y Farchas, Trefor
  17. Ysgol Gynradd Trefor
  18. Pont Cefn Pederau
  19. Cynan
  20. Cwt Band Trefor

Cyfanswm: 919 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Allweddell.jpg

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb gyfrannu ati.

Mae'n hawdd i chi ychwanegu ffeithiau at erthygl neu ysgrifennu erthygl ar bwnc newydd, ac mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun - neu cliciwch yma.

Enwau lleoedd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Am restr o'r enwau hyn gweler [1] am restr o enwau Lloegr; a [2] am restr o enwau lleoedd yr Alban.

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

YGanolfan.jpg

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .

Dyffryn Nantlle - panorama.JPG