Hafan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:35, 18 Chwefror 2021 gan Heulfryn (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Cof y Cwmwd


Pentref Trefor a mynyddoedd y Curnau - o'r chwith, Y Gurn Goch, Y Gurn Ddu a Moel Penllechog. Draw ar y gorwel y mae Mynydd Cilgwyn.
NEWYDDION

1200 O ERTHYGLAU ERBYN HYN

Mae nifer yr erthyglau - a nifer pynciau Cof y Cwmwd - yn dal i dyfu. Ers Awst 2017, mae deuddeg cant o erthyglau, rhai byr ond rhai'n hir iawn, wedi'u hychwanegu at y Cof. Dyma, yn ddigamsyniol erbyn hyn, brif ffynhonell hanes yr arfordir o Drefor i Ddinas Dinlle, a Dyffryn Nantlle i gyd.

Diolch diffuant i'n holl gyfranwyr - ond mae digonedd o le am ragor o gyfraniadau. Beth amdani felly? 'Does dim byd yn rhy ddibwys i'w gofnodi, ac os na wnewch chi, pwy arall wneith?

Diolch hefyd i'r Cynghorau lleol ac y elusen Cronfa Elw Park-Jones sydd wedi ein cefnogi. Heb eu help, fyddai'r Cof mewn perygl o ddod i ben.

Pan fydd helynt Cofid drosodd, bydd cyfle i chi ddod i sesiynau cyfrannu ar y cyd. Gwyliwch allan am hysbyseb yma!



Croeso i Cof y Cwmwd. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwefan gymunedol ydyw, a chaiff unrhyw un gyfrannu ati.

Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd.

Uwchgwyrfai

Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern Betws Garmon. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd. Cof y Cwmwd yw un o weithgareddau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.

Diolch i'n noddwyr presennol, ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu sefydlu'r wefan hon.



Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Sbectol.png

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl
  1. Cwm Coed
  2. Afon Rhos
  3. Gwaith llechi Inigo Jones
  4. Bwlch y Moch
  5. Garmon Sant
  6. Nantlle (trefgordd)
  7. Nanlle
  8. Tal-y-mignedd Ganol
  9. Plas Newydd, Llandwrog
  10. Olaf Cai Larsen
  11. Llion Huws
  12. Cai Larsen
  13. Robert Lloyd Jones
  14. Sarn Wyth-dŵr
  15. Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough
  16. Denisa, Arglwyddes Newborough
  17. Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough
  18. William Charles Wynn, 4ydd Arglwydd Newborough
  19. Thomas Assheton Smith II
  20. Clogwyn y Garreg

Cyfanswm: 1,213 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Allweddell.jpg

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we.Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.

Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun - neu cliciwch yma.

Enwau lleoedd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Am restr o'r enwau hyn gweler [1] am restr o enwau Lloegr; a [2] am restr o enwau lleoedd yr Alban.

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Moeltryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

YGanolfan.jpg

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â rheolwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net.


Dyffryn Nantlle - panorama.JPG