Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hafan"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
 
(Ni ddangosir y 15 golygiad yn y canol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 2: Llinell 2:
  
  
[[Delwedd:20200927 144608.jpg|bawd|de|520px|Pentref Trefor a mynyddoedd y Curnau - o'r chwith, Y Gurn Goch, Y Gurn Ddu a Moel Penllechog. Draw ar y gorwel y mae Mynydd Cilgwyn.]]
+
[[Delwedd:Dyffryn nantlle o lôn eifion.jpg|bawd|de|520px|Dyffryn Nantlle o Lôn Eifion.]]
  
{| style="float:chwith;border:8px solid grey; background:#1E90FF ;padding:5px;width:450px"
+
{| style="float:chwith;border:8px solid grey; background:#3CB371 ;padding:5px;width:450px"
  
 
|<big>'''NEWYDDION'''</big><br>
 
|<big>'''NEWYDDION'''</big><br>
  
<big>'''Mwy na 1320'''</big> '''O ERTHYGLAU ERBYN HYN'''<br>
+
<big>'''1450'''</big> '''O ERTHYGLAU - ac yn dal i fynd!!'''<br>
  
Dyma, yn ddigamsyniol, brif ffynhonell hanes yr arfordir o Drefor i Ddinas Dinlle, a Dyffryn Nantlle i gyd - heb anghofio glannau gorllewinol Afon Gwyrfai.
+
Dyma, yn ddigamsyniol, brif ffynhonell hanes hen gwmwd Uwchgwyrfai, ac mae hi'n tyfu o hyd. Mae'r wefan hon yn ymdrin â'r ardal sydd yn cynnwys yr arfordir o Drefor i Ddinas Dinlle, a Dyffryn Nantlle i gyd - heb anghofio glannau gorllewinol Afon Gwyrfai o'r Foryd hyd ei tharddiad yn Rhyd-ddu.
  
'''A wyddoch chi?''' Yn ogystal â darllen y wefan hon, gallwch ein cynorthwyo i'w datblygu a'i wella! Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl drwy glicio ar y gair "Golygu" ar ei brig. Os nad ydyw'n bodoli eto, gallwch greu un newydd!
+
Yn ogystal â darllen y wefan hon, gallwch ein cynorthwyo i'w datblygu a'i gwella! Mae cyfarwyddiadau am sut i wneud hynny islaw.  
  
Mae modd i chi roi’r hanes yn syth ar Cof y Cwmwd felly,  ond (os yw'n well gennmych) anfonwch neges e-bost atom ac mi wnawn ni gynnwys y ffeithiau drosoch. Ein cyfeiriad yw; cofycwmwd@gmail.com .
+
'''SESIYNAU GOLYGU AR Y CYD'''
  
 +
Diolch i'n noddwyr, mae gennym arian i gynnal sesiynau cymunedol yn rhad ac am ddim lle gallwch gwrdd ag eraill a'n helpu ni i ychwanegu cynnwys at '''Cof y Cwmwd'''. Gwyliwch yma am fanylion unwaith y bydd bygythiad Cofid wedi cilio.
  
 
 
 
|-
 
|-
 
|}
 
|}
Llinell 25: Llinell 24:
  
  
<big>'''Croeso i ''Cof y Cwmwd''.  Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl [[Uwchgwyrfai]] a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.''' Gwefan gymunedol ydyw, a chaiff unrhyw un gyfrannu ati.</big>
+
<big>'''Croeso i ''Cof y Cwmwd''.  Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl [[Uwchgwyrfai]] a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.''' </big>
  
 
Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd.  
 
Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd.  
  
 
[[Delwedd:scan0003.jpg|210px|de|Uwchgwyrfai]]
 
[[Delwedd:scan0003.jpg|210px|de|Uwchgwyrfai]]
Mae '''Cof y Cwmwd''' yn ymdrin ag ardal [[Uwchgwyrfai]], gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol '''[[Clynnog Fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]]''' a '''[[Llanwnda]]'''; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern [[Betws Garmon]]. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys '''Dyffryn Nantlle''' i gyd.  
+
Mae '''Cof y Cwmwd''' yn ymdrin ag ardal [[Uwchgwyrfai]], gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol '''[[Clynnog Fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]]''' a '''[[Llanwnda]]'''; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern [[Betws Garmon]]. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys '''[[Dyffryn Nantlle]]''' i gyd.  
 
'''Cof y Cwmwd''' yw un o weithgareddau [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]]. Cewch fwy o wybodaeth am '''Cof y Cwmwd''' wrth glicio [[Prosiect:Amdanom|'''yma''']].  
 
'''Cof y Cwmwd''' yw un o weithgareddau [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]]. Cewch fwy o wybodaeth am '''Cof y Cwmwd''' wrth glicio [[Prosiect:Amdanom|'''yma''']].  
  
'' '''Diolch i'n noddwyr presennol, ac i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu sefydlu'r wefan hon.''' ''
+
'' '''Diolch i'n noddwyr presennol am sicrhau parhad y wefan, ac hefyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu'r gwaith o'i sefydlu.''' ''
  
  
Llinell 55: Llinell 54:
 
==Sut i ychwanegu gwybodaeth==
 
==Sut i ychwanegu gwybodaeth==
 
[[Delwedd:allweddell.jpg|60px|chwith]]
 
[[Delwedd:allweddell.jpg|60px|chwith]]
Gwefan gydweithredol yw '''Cof y Cwmwd''' a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we.Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.
+
Gwefan gydweithredol yw '''Cof y Cwmwd''' a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we. Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.
  
 
Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch [[Cyfrannu at Cof y Cwmwd|'''yma''']].
 
Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch [[Cyfrannu at Cof y Cwmwd|'''yma''']].
  
'''Yn fwy na dim, mentrwch!''' ''Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl ei wrthdroi.'' ''' ''Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau'' '''.
+
'''Yn fwy na dim, mentrwch!''' ''Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl i ni ei wrthdroi.'' ''' ''Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau'' '''.
  
Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau '''[[coch]]''' yn y testun - neu cliciwch [[Uwchgwyrfai:Erthyglau sydd eu hangen|'''yma''']].  
+
Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau '''[[Prosiect:coch|coch]]''' yn y testun - neu cliciwch [[Uwchgwyrfai:Erthyglau sydd eu hangen|'''yma''']].  
  
 
==Enwau lleoedd==
 
==Enwau lleoedd==

Y diwygiad cyfredol, am 10:24, 22 Gorffennaf 2022

Cof y Cwmwd


Dyffryn Nantlle o Lôn Eifion.
NEWYDDION

1450 O ERTHYGLAU - ac yn dal i fynd!!

Dyma, yn ddigamsyniol, brif ffynhonell hanes hen gwmwd Uwchgwyrfai, ac mae hi'n tyfu o hyd. Mae'r wefan hon yn ymdrin â'r ardal sydd yn cynnwys yr arfordir o Drefor i Ddinas Dinlle, a Dyffryn Nantlle i gyd - heb anghofio glannau gorllewinol Afon Gwyrfai o'r Foryd hyd ei tharddiad yn Rhyd-ddu.

Yn ogystal â darllen y wefan hon, gallwch ein cynorthwyo i'w datblygu a'i gwella! Mae cyfarwyddiadau am sut i wneud hynny islaw.

SESIYNAU GOLYGU AR Y CYD

Diolch i'n noddwyr, mae gennym arian i gynnal sesiynau cymunedol yn rhad ac am ddim lle gallwch gwrdd ag eraill a'n helpu ni i ychwanegu cynnwys at Cof y Cwmwd. Gwyliwch yma am fanylion unwaith y bydd bygythiad Cofid wedi cilio.



Croeso i Cof y Cwmwd. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein bro a'i phobl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n hawdd iawn i chi ddefnyddio'r wefan - os ydych wedi defnyddio Wicipedia rywbryd, byddwch yn gwybod mor hawdd ydy hi: mi rydan ni'n defnyddio'r un un meddalwedd.

Uwchgwyrfai

Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal Uwchgwyrfai, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda; yr oedd Llanwnda'n blwyf mwy yn y gorffennol, gan gynnwys darn gorllewinol plwyf modern Betws Garmon. Mae Uwchgwyrfai yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd. Cof y Cwmwd yw un o weithgareddau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cewch fwy o wybodaeth am Cof y Cwmwd wrth glicio yma.

Diolch i'n noddwyr presennol am sicrhau parhad y wefan, ac hefyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu'r gwaith o'i sefydlu.



Sut i ddarllen erthygl neu ganfod ffeithiau

Sbectol.png

Defnyddiwch y blwch Chwilio ar ben y sgrîn hon, ar y dde - neu gliciwch Holl gategorïau ar y rhestr ar y chwith i weld pa gategorïau o bynciau sydd ar gael. Os gwelwch eiriau lliw glas rhywle ar y wefan hon, gallwch gliciwch arnynt ac mi ewch yn syth at yr erthygl berthnasol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cliciwch yma i ganfod dolennau at wefanau eraill all fod o ddefnydd i chi.

NEU BETH AM... ddysgu rhywbeth newydd am eich dyffryn? Cliciwch ar Tudalen ar hap ar y chwith a 'does wybod be' wnewch chi ei ddysgu


Erthyglau newydd

Uwchgwyrfai o Fwlch yr Eifl
  1. Gwesty Victoria
  2. Plas Isaf (Llandwrog)
  3. Pont Dafarn Dudur
  4. Owen Jones, Gwredog
  5. John Evans (fforiwr)
  6. Richard Evans
  7. Gwesty'r Red Lion
  8. Gwesty'r Llew Coch
  9. Sage Todz
  10. Toda Ogunbanwo (Sage Todz)
  11. Sefydliad y Merched Y Groeslon
  12. Eisteddfod Aelhaearn
  13. Anne Elizabeth Williams
  14. Marian Elias Roberts
  15. Parti Min-y-Môr
  16. Pont Plas-y-bryn
  17. Pont Felinwnda
  18. Pont Mur-y-goeden
  19. Lôn Cefn Glyn
  20. Guto Roberts

Cyfanswm: 1,467 erthygl

Sut i ychwanegu gwybodaeth

Allweddell.jpg

Gwefan gydweithredol yw Cof y Cwmwd a chaiff pawb ychwanegu ati'n uniongyrchol dros y we. Hawdd iawn yw i unrhyw un ychwanegu ffeithiau at erthygl, neu greu erthygl o'r newydd. Rydym yn eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny, a hynny'n gynnes iawn.

Mae arnom wir angen eich cyfraniadau er mwyn sicrhau y bydd Cof y Cwmwd yn cynnwys pob elfen o hanes Cwmwd Uwchgwyrfai. Peidiwch â meddwl bod eraill yn gwybod mwy na chi am eich ardal. Cyflwynwch eich gwybodaeth; dyna sut y daw ffeithiau newydd i'r golwg. Am fwy o wybodaeth am gyfrannu erthygl neu ychwanegu/cywiro ffeithiau, cliciwch yma.

Yn fwy na dim, mentrwch! Ni ellir gwneud dim i'r wefan nad yw'n bosibl i ni ei wrthdroi. Felly, allwch chi ddim gwneud stomp o bethau .

Angen syniadau am erthygl? Cliciwch ar unrhyw eiriau coch yn y testun - neu cliciwch yma.

Enwau lleoedd

Uwchgwyrfai o Rosgadfan

Cymraeg yw iaith gwefan Cof y Cwmwd ac felly defnyddir yr enw Cymraeg bob tro, boed y lle yng Nghymru neu'n rhywle arall - a bwrw bod enw Cymraeg ar gael, e.e. "Lerpwl". Am restr o'r enwau hyn gweler [1] am restr o enwau Lloegr; a [2] am restr o enwau lleoedd yr Alban.

Mae rhai enwau lleol yn cael eu sillafu mewn sawl ffordd, a rhaid oedd penderfynu ar y sillafiad y byddwn yn ei ddefnyddio, er mwyn i fynegai'r safle weithio'n iawn.

Dyma'r ffurfiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghof y Cwmwd: Bethesda Bach; Bwlchderwin; Clynnog Fawr; Drws-y-coed; Glan-rhyd; Gurn Goch; Isgwyrfai; Maestryfan; Moeltryfan; Pant-glas; Pen-y-groes; Pontlyfni; Rhosgadfan; Rhos-isaf; Rhostryfan; Rhyd-ddu; Tal-y-sarn; Tan'rallt; Tai Lôn; Tŷ'nlôn; Uwchgwyrfai; Y Bontnewydd; Y Fron; Y Groeslon.

Iaith Cof y Cwmwd

Ffynhonnell o wybodaeth Gymraeg ei hiaith yw Cof y Cwmwd. Mae erthyglau Cymraeg am rai elfennau o hanes Uwchgwyrfai ar gael hefyd ar Wicipedia Cymraeg - ac wrth gwrs mewn ieithoedd eraill ar Wikipedia. Cofiwch hefyd fod modd i ffrindiau di-Gymraeg fentro cael cyfieithiad (o ryw fath!) o erthyglau Cof y Cwmwd trwy ddefnyddio Google Translate.

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

YGanolfan.jpg

Dyma'r ganolfan yng nghwmwd Uwchgwyrfai sy’n costrelu dyheadau a hanes ardal sy’n enwog am ei chyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol. Dyma’n wir bwerdy bro. Lleolir y Ganolfan yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon.

Elusen gofrestredig yw Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Ymysg y gweithgareddau, trefnir darlithoedd bob mis ac ar ddyddiau coffa ein cenedl; cynhelir ysgolion undydd i ledaenu ein gwir hanes ac arddangosfeydd achlysurol; cynhelir clwb darllen misol; a chyhoeddir cylchgrawn sain, yr Utgorn, bob chwarter sy'n ymdrin â phynciau hanesyddol a diwylliannol, ac a ddosberthir i danysgrifwyr. Caiff y deillion ei dderbyn am ddim ond iddynt wneud cais. Yng nghefn y ganolfan ceir gardd draddodiadol Gymreig y mae rhai o'r aelodau'n edrych ar ei hôl.

Ewch i brif wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai am fanylion llawn a'r newyddion diweddaraf.

A oes gennych sylwadau?

Mae modd rhoi sylwadau am unrhyw dudalen trwy ddefnyddio'r botwm Sgwrs ar ben erthygl (mae un ar dop y dudalen hon, er enghraifft). Ond os yw'n well gennych anfon e-bost, gallwch gysylltu â gweinyddwyr Cof y Cwmwd trwy yrru e-bost at cofycwmwd@gmail.com



Dyffryn Nantlle - panorama.JPG