Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwersyll Carcharorion Rhyfel y Bontnewydd"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Gwersyll Carcharorion Rhyfel''' yn Y Bontnewydd ym 1943 er mwyn cartrefu carcharorion rhyfel o’r Eidal a oedd yn gweithio ar ffermydd y...')
 
B
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Gwersyll Carcharorion Rhyfel''' yn [[Y Bontnewydd]] ym 1943 er mwyn cartrefu carcharorion rhyfel o’r Eidal a oedd yn gweithio ar ffermydd yn y gymdogaeth. Mae hanesion yn adrodd fel yr oeddynt yn rhydd i feicio at eu gwaith ac ati; roedd gan y carcharorion hyn yr enw o fod yn falch eu bod wedi cael eu dal ac yn hapus i fod yng Nghymru.
+
Sefydlwyd '''Gwersyll Carcharorion Rhyfel''' yn [[Y Bontnewydd]] ym 1943 er mwyn cartrefu carcharorion rhyfel o’r Eidal a oedd yn gweithio ar ffermydd yn y gymdogaeth. Adroddir hanesion fel yr oeddynt yn rhydd i feicio at eu gwaith ac ati; dywedid bod y carcharorion hyn yn falch eu bod wedi cael eu dal mewn gwirionedd ac yn hapus i fod yng Nghymru.
  
Ar ôl i’r Eidalwyr gael eu symud oddi yno, rywbryd ym 1944-5, defnyddiwyd y gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel Almeinig o fai 1945 ymlaen. Er bod y rhyfel wedi dod i ben, ni chaniatawyd i lawer o’r carcharorion hyn i ddychwelyd adref tan 1947-8.
+
Ar ôl i’r Eidalwyr gael eu symud oddi yno, rywbryd ym 1944-5, defnyddiwyd y gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel Almeinig o Fai 1945 ymlaen. Er bod y rhyfel wedi dod i ben, ni chaniatawyd i lawer o’r carcharorion hyn ddychwelyd adref tan 1947-8.
  
Fel yn achos yr Eidalwyr, dangoswyd caredigrwydd i’r dynion hyn ac mae yna dystiolaeth eu bod yn ddigon hapus. Roedd y gwersyll bron gyferbyn â safle [[Cartref Bontnewydd]], ac roedd Gweinidog Capel Moriah (MC), Caernarfon, y Parch Stephen Tudor, a’i wraig yn gofalu am eu lles. Sefydlwyd llyfrgell ar eu cyfer gan Mr Tudor a gwnaeth Mrs Tudor ginio Sul iddynt bob wythnos. Ar sawl achlysur, chwaraeodd tîm pêl droed y carcharorion yn erbyn tîm [[RAF Llandwrog]].
+
Fel yn achos yr Eidalwyr, dangoswyd caredigrwydd tuag at y dynion hyn ac mae yna dystiolaeth eu bod yn ddigon hapus. Roedd y gwersyll bron gyferbyn â safle [[Cartref Bontnewydd]], ac roedd Gweinidog Capel Moriah (MC), Caernarfon, y Parch Stephen Tudor, a’i wraig, yn gofalu am eu lles. Sefydlwyd llyfrgell ar eu cyfer gan Mr Tudor a gwnaeth Mrs Tudor ginio Sul iddynt bob wythnos. Ar sawl achlysur, chwaraeodd tîm pêl-droed y carcharorion yn erbyn tîm [[RAF Llandwrog]].
  
Ar ôl 1948, bu’r gwersyll yn wag tan 1962, pan ddefnyddiwyd y cytiau dros dro fel cartrefi ar gyfer teuluoedd lleol wrth i ystâd tai cyngor Glan Beuno gael eu hadeiladu. Ers hynny, chwalwyd y cytiau, ond mae eu sylfaenu’n dal i’w gweld yn gae i’r gogledd o ddreif [[Plas Dinas]].<ref>Gwefan ‘’History Points’’, [https://historypoints.org/index.php?page=site-of-pow-camp-bontnewydd], cyrchwyd 09.05.2022</ref>
+
Ar ôl 1948, bu’r gwersyll yn wag tan 1962, pan ddefnyddiwyd y cytiau dros dro fel cartrefi ar gyfer teuluoedd lleol wrth i ystâd tai cyngor Glan Beuno gael eu hadeiladu. Ers hynny, chwalwyd y cytiau, ond mae eu sylfeini'n dal i’w gweld yn y cae i’r gogledd o ddreif [[Plas Dinas]].<ref>Gwefan ‘’History Points’’, [https://historypoints.org/index.php?page=site-of-pow-camp-bontnewydd], cyrchwyd 09.05.2022</ref>
  
 
==Cyfeiriadau==
 
==Cyfeiriadau==

Diwygiad 17:26, 10 Mai 2022

Sefydlwyd Gwersyll Carcharorion Rhyfel yn Y Bontnewydd ym 1943 er mwyn cartrefu carcharorion rhyfel o’r Eidal a oedd yn gweithio ar ffermydd yn y gymdogaeth. Adroddir hanesion fel yr oeddynt yn rhydd i feicio at eu gwaith ac ati; dywedid bod y carcharorion hyn yn falch eu bod wedi cael eu dal mewn gwirionedd ac yn hapus i fod yng Nghymru.

Ar ôl i’r Eidalwyr gael eu symud oddi yno, rywbryd ym 1944-5, defnyddiwyd y gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel Almeinig o Fai 1945 ymlaen. Er bod y rhyfel wedi dod i ben, ni chaniatawyd i lawer o’r carcharorion hyn ddychwelyd adref tan 1947-8.

Fel yn achos yr Eidalwyr, dangoswyd caredigrwydd tuag at y dynion hyn ac mae yna dystiolaeth eu bod yn ddigon hapus. Roedd y gwersyll bron gyferbyn â safle Cartref Bontnewydd, ac roedd Gweinidog Capel Moriah (MC), Caernarfon, y Parch Stephen Tudor, a’i wraig, yn gofalu am eu lles. Sefydlwyd llyfrgell ar eu cyfer gan Mr Tudor a gwnaeth Mrs Tudor ginio Sul iddynt bob wythnos. Ar sawl achlysur, chwaraeodd tîm pêl-droed y carcharorion yn erbyn tîm RAF Llandwrog.

Ar ôl 1948, bu’r gwersyll yn wag tan 1962, pan ddefnyddiwyd y cytiau dros dro fel cartrefi ar gyfer teuluoedd lleol wrth i ystâd tai cyngor Glan Beuno gael eu hadeiladu. Ers hynny, chwalwyd y cytiau, ond mae eu sylfeini'n dal i’w gweld yn y cae i’r gogledd o ddreif Plas Dinas.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan ‘’History Points’’, [1], cyrchwyd 09.05.2022