Gregory Williamson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:51, 3 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Jump to navigation Jump to search

Sais heb fawr o gysylltiad ag Uwchgwyrfai oedd Gregory Williamson. Yr oedd yn byw yn hanner cyntaf yr 16g. Cafodd ei benodi'n brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr ym 1537 gan Esgob newydd Bangor, John Capon, Sais arall na fu'n agos at ei esgobaeth cyn hynny. Ar y pryd, nid oedd Williamson ond wyth oed, ac yn gwbl amlwg yn anaddas ar gyfer cael ei benodi i swydd pennaeth sefydliad eglwysig - ond wrth gwrs, gallai ef a'i deulu fanteisio ar y cyflog a ddeuai gyda swyddi o'r fath, ac yn ôl arfer y cyfnod, ni fyddai unrhyw ddisgwyliad iddo ymweld â Chlynnog Fawr! Dichon mai er mwyn ennill ffafr Thomas Cromwell, prif swyddog y brenin Harri VIII, y gwnaeth Capon y penodiad hwn, gan fod Williamson yn perthyn i Cromwell. Nid oedd dirprwy a Ficer Cyffredinol Bangor, Dr John Glyn, yn fodlon gyda hyn ac, fel cynrychiolydd yr Esgob yn ei absenoldeb o'i esgobaeth, fe benododd Sion Gwynedd (John Gwynneth) i'r un swydd o brofost. Bu achosion cyfreithiol gan y ddau brofost honedig yn draul ar arian ac amynedd deilydd cyfreithlon y swydd am ryw bedair blynedd ond, yn y diwedd, Gwynedd a orfu, oherwydd fod Capon wedi marw, a'i olynydd, yr Esgob Arthur Bulkeley, wedi mynd dramor, a neb yn amddiffyn yr achos.[1]

Wedi hynny, ni chlywyd sôn am Williamson yng Nghlynnog Fawr a chyda bod Cromwell wedi colli ffafraeth y brenin ym 1540, aeth pob atgof ohono'n anghof.

Cyfeiriadau

  1. Colin A Gresham, A Further Incident in the History of Clynnog Fawr (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966 (2) ), tt.301-2